Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Desmond Jones, o Resolfen, a gollodd ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad ffordd a ddigwyddodd ar yr A465 o Aberdulais i Resolfen, ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023, wedi talu teyrnged iddo.
“Rydym fel teulu wedi torri’n calonnau yn llwyr gan farwolaeth sydyn Desmond Jones, neu "Des" i lawer ohonom.
Roedd Des yn dad anhygoel i'w ddau blentyn Kelly a David, yn dad-cu cariadus, yn llys-dad anhygoel i Scott a Kelly a hefyd yn ŵr cariadus i Amanda.
Des oedd y Postmon lleol yn ardal Llangatwg, Castell-nedd, am dros 30 mlynedd, ac roedd wrth ei fodd yn y swydd.
Bydd ei dri brawd Phillip, Robert a Chris, a'i gyn-wraig Julie yn ei golli'n fawr.
Roedd Des yn fab yng nghyfraith hoffus i Linda a bydd colled fawr ar ei ôl o fewn y teulu a chymuned leol Resolfen.
Bydd llawer yn adnabod Des yn lleol wrth iddo fynd am dro gyda’i ffrind ffyddlon, ei gi Jenko, a fydd yn gweld ei eisiau a’r drefn a oedd ganddynt.
Hoffem ni fel teulu ddweud diolch enfawr am yr holl negeseuon caredig a dymuniadau da a dderbyniwyd. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar.
Bydd pawb yn gweld eisiau Des ac mae'n gadael bwlch enfawr yn ein bywydau. Gorffwys mewn hedd Des.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau camera cerbyd i gysylltu â ni gan ddyfynnu’r digwyddiad 2300219405.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu 📞Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111