Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Jonathan Walker ei ddedfrydu i 13 mlynedd o garchar am ymosod yn rhywiol ar blentyn ac am feddu ar luniau anweddus a'u dosbarthu.
Lawrlwythodd Walker, 33 oed o Ferthyr Tudful, nifer sylweddol o fideos ffiaidd o blant a babanod yn cael eu cam-drin a'u treisio a dosbarthodd y fideos hynny. Amcangyfrifwyd mai dim ond ychydig fisoedd oed oedd y dioddefwr ifancaf.
Cysylltodd un o swyddogion yr FBI yn America â Thîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu (POLIT). Roedd Walker wedi rhannu fideos a negeseuon a oedd yn awgrymu ei fod yn cam-drin plentyn yn rhywiol. Nodwyd ar unwaith fod Walker yn ardal Heddlu De Cymru a llwyddodd aelodau o staff POLIT i'w leoli a'i arestio o fewn oriau o dderbyn yr atgyfeiriad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carrie Edmonds, "Pan gafodd Walker ei arestio, ceisiodd ddinistrio ei ffôn symudol, ond llwyddodd y swyddogion a'i arestiodd i'w rwystro rhag gwneud hynny. Gyda chymorth dulliau fforenseg ddigidol, cafodd plentyn a oedd yn ddioddefwr ei adnabod a chafodd mesurau diogelu perthnasol eu rhoi ar waith i amddiffyn y plentyn.
Yn ogystal, daethpwyd o hyd i fwy na 160 o luniau a fideos o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, ynghyd â 178 o luniau bwystfileiddiwch. Cafodd Walker ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa bore drannoeth ac fe'i cadwyd yno tan iddo gael ei ddedfrydu.
Roedd yn unigolyn cyfrwys nad oedd yn barod i gydymffurfio ag unrhyw reolau. Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr o bob asiantaeth am eu gwaith caled wrth helpu i sicrhau cyfiawnder, a diogelu plant ledled De Cymru a'r ardal ehangach."
Bydd Walker yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes.