Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael dedfryd estynedig o 13 mlynedd yn dilyn ymosodiad direswm lle y cafodd ei bartner ar y pryd anafiadau mor ddifrifol i'w hwyneb fel y ceisiodd honni iddi gael ei tharo gan gar.
Mae Wayne Phillip Jenkins, 39 oed o Lanelli, yn bwrw dedfryd estynedig o 13 o flynyddoedd, gan gynnwys tymor o naw mlynedd yn y ddalfa gyda chyfnod estynedig o 4 blynedd, am ymosodiad trais domestig adran 18 yn erbyn menyw 36 oed.
Ym mis Mehefin 2022, aeth y swyddogion i ddigwyddiad yn Abertawe lle daethant o hyd i fenyw a oedd wedi cael anafiadau sylweddol i'w wyneb.
Sylwodd y swyddogion a oedd yn bresennol ar ymddygiad anarferol Wayne Jenkins, a ddywedodd wrth swyddogion fod ei bartner wedi cael ei tharo gan gar.
Yn ystod yr ymchwiliad, daeth i'r amlwg fod Jenkins wedi ymosod yn dreisgar a direswm ar ei bartner.
Darparodd y ddioddefwraig dystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe lle rhoddodd fanylion yr ymosodiad a'i gadawodd ag anafiadau a newidiodd ei bywyd. Disgrifiodd y digwyddiadau ar ôl yr ymosodiad, gan ddweud wrth y rheithgor sut y gwnaeth Wayne Jenkins iddi gerdded drwy strydoedd a lonydd cefn Manselton, mewn ymgais i guddio'r anafiadau yr oedd wedi'u hachosi iddi. Daeth swyddogion ar ei thraws yn fuan wedi hyn.
Gwadodd Wayne Jenkins unrhyw gyfrifoldeb am yr anafiadau yr oedd wedi'u hachosi i'r ddioddefwraig, a oedd yn golygu y bu'n rhaid iddi fynd trwy dreial o'r herwydd, yn ogystal â chael triniaethau meddygol a llawdriniaethau niferus yn yr ysbyty.
Dywedodd DS Sam Lewis o Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) Abertawe:
“Mae Wayne Jenkins yn droseddwr treisgar a pheryglus iawn ac rwy'n sicr y bydd Abertawe yn lle mwy diogel nawr ei fod dan glo.”
Ategodd y Swyddog a oedd yn Ymchwilio i'r Achos, DC Abi Doxsey:
“Mae'r ddioddefwraig wedi bod yn ddewr a phenderfynol iawn drwy'r ymchwiliad cyfan ac mae hi'n ysbrydoliaeth.
“Mae'n anodd dychmygu'r effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi'i gael ar y ddioddefwraig ac eto mae'r dewrder a ddangoswyd ganddi drwy'r artaith hon wedi bod yn anhygoel. Mae'n haeddu pob cydnabyddiaeth am y dewrder y mae wedi'i ddangos ac yn parhau i'w ddangos.