Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £1,000 am wybodaeth a fydd yn arwain at arestio a chyhuddo Zulfkar Sheblan a Caine Morse, y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt mewn perthynas â chynllwynio i Gyflenwi Cyffuriau Dosbarth A a Gwyngalchu Arian.
Ym mis Mawrth 2020, credir y bu Sheblan a Morse yn rhan o Grŵp Troseddu Cyfundrefnol, yr oeddent yn cynllwynio gyda Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol eraill yn y DU ac mewn gwledydd tramor er mwyn sicrhau a chyflenwi symiau mawr o gyffuriau Dosbarth 'A' a reolir, gan gynnwys heroin a chocên yng Nghaerdydd a Chasnewydd a'r cyffiniau.
Anogir y cyhoedd i beidio dynesu at Mr Sheblan na Mr Morse, ond i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw neu ffonio'r heddlu yn syth.
***Mae Crimestoppers – sy'n annibynnol ar yr heddlu – yn cynorthwyo'r ymchwiliad trwy gynnig gwobr o hyd at £1,000 am wybodaeth ddienw y bydd yn ei chael ar-lein trwy Crimestoppers-uk.org neu trwy ffonio rhif rhadffôn 0800 555 111 – a fydd yn arwain at arestio Zulfkar Sheblan a Caine Morse.***
Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr Rhanbarthol Crimestoppers, Cymru: “Fel elusen sy'n annibynnol ar yr heddlu, rydym wastad wedi cadw ein haddewid i gadw pobl yn ddienw – rydym wedi cynorthwyo miliynau o bobl sydd wedi ymddiried ynom trwy gyfleu eu gwybodaeth am droseddu ers i ni gael eich sefydlu tua diwedd y 1980au.
“Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt yn y DU ar y rhif rhadffôn 0800 555 111, sydd ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, neu ewch ati i lenwi'r ffurflen ar-lein syml a diogel ar ein gwefan yn ddienw. Ni fydd unrhyw un yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni. Efallai y byddwch yn gymwys i gael gwobr hefyd, ac ni fydd unrhyw ddarn o wybodaeth yn rhy fach i ni ei gael.”