Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i wella'r ffordd y caiff cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ei gyflwyno ac i roi cyfleoedd newydd i bobl ifanc.
Caiff y cytundeb pedair blynedd ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mae'n nodi pennod newydd gyffrous ar gyfer cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a gafodd ei lansio gyntaf gan Heddlu De Cymru yn 2014.
Mae'r cynllun wedi tyfu'n sylweddol ers hynny – heddiw mae dros 100 o wirfoddolwyr rhwng 14 ac 17 oed mewn wyth hyb ledled De Cymru a chânt eu cefnogi gan dimau plismona lleol.
Mae'r gwirfoddolwyr (y cyfeirir yn aml atynt yn Saesneg fel PYVs) yn rhan o grŵp ieuenctid yr heddlu a gydnabyddir ledled y DU. Nod y cynllun yw ysbrydoli aelodau i gymryd rhan yn eu cymunedau yn gadarnhaol ac i annog dinasyddiaeth dda ac ysbryd o fentro. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn cymryd rhan mewn gwaith sy'n cefnogi blaenoriaethau plismona lleol ac yn dysgu sgiliau sy'n gwella eu gwaith yn y gymuned.
Bydd Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn gweithio'n agos gyda'u partneriaid gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a'u gweithwyr ieuenctid yn ogystal â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a bydd y myfyrwyr o'u rhaglenni ieuenctid a chymuned a throseddeg a phlismona yn gwirfoddoli fel rhan drefniadau lleoli eu rhaglen. Byddant i gyd yn cydweithio ag ‘Arweinwyr’ presennol Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu – sy'n cynnwys PCSOs, swyddogion yr heddlu a gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu – er mwyn cyflwyno rhaglen wedi'i theilwra.
Gan weithio gyda Gwobr Dug Caeredin, St John Cymru a darparwyr gwaith ieuenctid eraill, bydd y gweithgareddau yn seiliedig ar anghenion y gwirfoddolwyr eu hunain, a bydd yn cynnwys cael gafael ar amrywiaeth o gyfleoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, llesiant, datblygiad personol a chymdeithasol a gyda chefnogaeth rhagolygon addysg, hyfforddiant a chyflogaeth y gwirfoddolwyr.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r bartneriaeth arloesol hon sy'n ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant presennol y cynllun a mynd ag ef i'r lefel nesaf.
“Mae gan Gyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol brofiad heb ei ail o ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd a fydd yn dod â buddiannau enfawr i'n llu o wirfoddolwyr. Bydd cyfle ar y cyd â hyn i gwblhau camau yng Ngwobr Dug Caeredin a gwn o brofiad ei fod yn helpu pobl ifanc i ffynnu a datblygu. Mae cysylltu â'r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru a'r ddwy brifysgol yn gwneud hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Danny Richards:
“Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu dealltwriaeth o blismona a gwasanaeth cyhoeddus. Mae'n annog datblygiad sgiliau personol a chyfathrebu gan annog dinasyddiaeth dda drwy ymgysylltu â chymunedau lleol ar yr un pryd.”
Dywedodd Paul Glaze, Prif Weithredwr Cyngor Cymru y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol:
“Ynghyd â'n partneriaid, mae'n bleser gennym fod wedi cael y cyfle i weithio gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ac Arweinwyr ar draws yr holl Hybiau bywiog yn Ne Cymru. Ein nod yw cefnogi a chyflwyno'r rhaglenni gorau posibl sy'n seiliedig ar waith ieuenctid sy'n diwallu anghenion holl wirfoddolwyr presennol a'r rhai sydd heb ymuno eto. Rydym wir yn edrych ymlaen at ddechrau arni!”