Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am lygad-dystion i ladrad yn Heol y Gogledd, Gabalfa, a ddigwyddodd ddoe (dydd Mawrth, Awst 8).
Am tua 5.15am, daeth adroddiad i law am ymosodiad ar gerbyd cludo arian gan bobl ar feic modur ger Tesco Express.
Ymosodwyd ar yrrwr y fan a chafodd blwch arian a oedd yn cynnwys swm sylweddol o arian ei ddwyn.
Credir bod tri dyn dan amheuaeth a disgrifir y beic modur dan sylw fel un o liw oren a du.
Dywedodd y Ditectif Ringyll, Phil Marchant o Heddlu De Cymru: “Mae'r dioddefwr wedi'i ysgwyd gan y digwyddiad hwn, yn ddealladwy ac wedi anafu ei gefn oherwydd y lladrad. Roedd yn ceisio gwneud ei waith pan ymosododd y llwfrgwn hyn arno.
“Roedd y rhai a ddrwgdybir, sy’n cael eu disgrifio fel dynion gwyn, i gyd yn gwisgo bandanas neu gynheswyr gwddf i orchuddio eu hwynebau ac yn cario bagiau du ar eu cefnau.
“Mae nifer o eitemau wedi cael eu hadfer ar gyfer archwiliad fforensig ac rydym yn edrych ar ddyfeisiau teledu cylch cyfyng yn yr ardal. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adnabod ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol. Hoffem apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru.”
Diflannodd y rhai a ddrwgdybir ar gyflymder i lawr y lôn y tu ôl i orsaf betrol Texaco i gyfeiriad Pwll Nofio Maendy.
Gofynnir i lygad-dystion neu i unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys ffilm camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng, gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod *263851.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.