Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon, cyflwynodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan wobr flynyddol Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn i'r Rhingyll Krishna Chauhan.
Mae'r wobr yn cydnabod dysgwr Cymraeg gorau'r flwyddyn, a'r person sydd wedi dangos yr ymrwymiad, y cymhelliant a'r brwdfrydedd mwyaf i ddysgu Cymraeg dros y deuddeg mis diwethaf.
Creodd brwdfrydedd Krishna, ei hagwedd gadarnhaol a'i hymdrechion i ddatblygu a gwella ei sgiliau Cymraeg argraff fawr ar y beirniaid, sy'n rhan o dîm Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru, yn ystod eu trafodaethau.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Krishna:
“Pan gefais wybod am y wobr, roeddwn wedi fy syfrdanu. Mae'n fraint anhygoel.Dechreuodd fy nhaith i ddysgu Cymraeg pan symudais i Gaerdydd o Lundain yn 2008. Dechreuais ddysgu Cymraeg yn y Gweithle gyda Heddlu Gwent, gan gwblhau fy nghwrs Lefel 1 yn llwyddiannus.
“Fel rhywun sy'n siarad ac yn deall Gwjarati, Pwnjabeg, Hindi a Sbaeneg, roeddwn yn frwdfrydig dros ddysgu mamiaith y wlad lle rwyf bellach yn byw. Wedi i mi drosglwyddo i Heddlu De Cymru yn 2017, roeddwn yn hapus iawn i ddysgu y gallwn ddatblygu a chofrestru ar gyfer y lefel nesaf. Roeddwn wir yn mwynhau'r broses o ddysgu ac wrth fy modd o gael y cyfle i ddod yn fwy rhugl.
“Wrth i mi ddatblygu, rwyf wedi cael cefnogaeth gan fy rheolwr a Heulwen, ein hyfforddwr iaith Gymraeg, sydd wedi cynnig anogaeth a chymorth parhaus. Yn sgil y cymorth hwn, rwyf wedi llwyddo i gwblhau Lefel 4/5 eleni. Mae'r cyrsiau wedi'u trefnu'n dda ac mae eu cynnwys yn berthnasol i fy rôl fel swyddog yr heddlu. Yn ogystal â'r gwaith dysgu ffurfiol, rwy'n ceisio mynd i'r sesiynau Siop Siarad anffurfiol pan fo modd, a defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith lle y bo'n bosibl.
“O safbwynt personol, byddaf yn parhau i ddysgu a manteisio ar gyfleoedd i ymarfer fy Nghymraeg. Cafodd fy mhlant eu magu yng Nghymru ac felly gwnaethant ddysgu'r iaith yn yr ysgol, a bellach mae gennyf ddwy wyres a fydd yn dysgu Cymraeg, felly bydd yn braf gallu darllen a dysgu gyda'n gilydd.
“Rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar iawn i gael y wobr a byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried dysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg i roi cynnig arni.”
Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae'n bleser gennyf gydnabod ymdrechion Krishna a'i llongyfarch ar ei llwyddiant haeddiannol iawn. Fel bob amser, bu cryn gystadlu am fod nifer mawr o swyddogion a staff Heddlu De Cymru yn gwneud yr ymdrech i ddysgu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg. Maent yn gwneud hyn drwy ein cyrsiau dysgu a datblygu ac yn eu hamser eu hunain hefyd.
"Wrth gydnabod llwyddiant Krishna, mae'n bwysig i mi hefyd dalu teyrnged i Heulwen Jones, ein Hyfforddwr Iaith Gymraeg a'r tîm dysgu a datblygu. Mae Heulwen yn parhau i roi cymorth gwych i'n dysgwyr, ac rydym yn ddiolchgar am ei hysbrydoliaeth ddi-ffael a'i harweiniad.
"Fel sefydliad, rydym yn parhau i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau plismona rydym yn eu cynnig, p'un a yw ein cymunedau'n dewis eu defnyddio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae'r ffaith bod cynifer o'n swyddogion a'n staff am ddysgu a gwella eu Cymraeg yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth hefyd. Rwy'n sicr y bydd agwedd frwd a phenderfynol Krishna a chydweithwyr eraill yn ein helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog."