Mae Heddlu De Cymru yn falch o gynrychioli a diogelu'r holl gymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Caerdydd yw un o'r mannau mwyaf diogel i astudio yn y DU, ac rydym am gadw pethau felly.
Dyma rai o'r ffyrdd rydym yn helpu i'ch cadw'n ddiogel:
- Swyddogion mewn dillad plaen ar batrôl yng nghanol y ddinas er mwyn atal trais yn erbyn menywod a merched drwy dargedu unigolion amheus a'r rheini sy'n dangos ymddygiad rhywiol diangen.
- Mae Bysiau Diogelwch Caerdydd i Fyfyrwyr yn helpu o gwmpas 20 o unigolion pob nos ac ers mis Medi 2021 mae wedi diogelu dros 2,000 o bobl agored i niwed.
- Mynychu digwyddiadau mewn lleoliadau LGBT+ yng nghanol dinas Caerdydd ir mwyn i'r cyhoedd a staff roi gwybod am unrhyw densiynau neu bryderon.
- Os bydd achosion o sbeicio yn cael eu hadrodd, byddwn yn rhybuddio safleoedd trwyddedig am ddulliau sbeicio ac yn gofyn iddynt fod yn arbennig o wyliadwrus. Rydym hefyd wedi rhoi hyfforddiant i safleoedd trwyddedig ar adnabod gwendidau.
- Ni sydd â'r gyfradd cyhuddo neu wysio uchaf ar gyfer troseddau rhywiol o blith y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
- Mae oddeutu 50% o'n gweithlu yn ferched. Rydym yn annog unigolion o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgysylltu â'n cyfleoedd recriwtio.
- Tîm Plismona Cyswllt Myfyrwyr a swyddogion Troseddau Casineb ymroddedig.
- Mae'r adnodd ar-lein StreetSafe yn eich galluogi i nodi lleoliadau lle rydych chi wedi teimlo'n anniogel. Gan ddefnyddio'r wybodaeth honno, gallwn gyfarwyddo ein patrolau a mynd ati i wella seilwaith megis goleuadau a systemau teledu cylch cyfyng.
- Tîm ymroddedig o fyfyrwyr wirfoddolwyr yr heddlu yn gweithio gyda ni ar leihau ac atal troseddau.


Am fwy o gyngor ewch i'n gwefan: Myfyrwyr Diogel | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)