Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod Myfyrwyr Diogel yw rhoi cyngor atal troseddau, cyngor diogelwch a chyngor cyffredinol i'r holl fyfyrwyr Prifysgol ledled De Cymru.
Safer Students is a collaborative project between South Wales Police and all South Wales Universities (Cardiff University, Cardiff Metropolitan University, University of South Wales (Treforest & Atrium), Royal Welsh College of Music and Drama, Swansea University and University of Wales Trinity Saint David). Our dedicated Student Liaison Officers are on hand to help you settle in to your new campus and also to provide you with the knowledge you need to keep yourself and your friends safe.
Mae Myfyrwyr Diogel yn brosiect cydweithredol rhwng Heddlu De Cymru a phob Prifysgol yn Ne Cymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru (Trefforest ac Atrium), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Mae ein Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr dynodedig wrth law i'ch helpu i ymgartrefu ar eich campws newydd a hefyd i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gadw eich hun a'ch ffrindiau yn ddiogel.
Eich Swyddogion Cyswllt Prifysgol lleol ar gyfer holl fyfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yw:
Swyddogion Cyswllt Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw:
De Cymru yw un o'r mannau mwyaf diogel i astudio yn y DU, ac rydym am gadw pethau felly. Felly p'un a ydych yng Nghaerdydd, Abertawe neu Drefforest, gallwch aros yn ddiogel, chwarae'n ddiogel ac astudio'n ddiogel drwy ddilyn ein cyngor. Sgroliwch i lawr i gael rhagor o wybodaeth.
Os bydd angen i chi roi gwybod am ddigwyddiad gallwch wneud hynny drwy'r dulliau canlynol:
Dylai eich tŷ fod yn lle diogel, felly gadewch i ni gadw pethau felly:
Cofiwch, gallwch gofrestru eich eiddo gwerthfawr yn www.immobilise.com
Gwnewch yn siŵr fod eich noson allan yn gofiadwy am y rhesymau cywir
Os byddwch ar noson allan a bod angen help arnoch, manteisiwch ar ein gwasanaethau Man Cymorth/Bws Diogelwch.
Mae'r Man Cymorth yn Abertawe wedi'i leoli yng nghefn y maes parcio ar Y Strand ac mae wedi'i staffio gyda nyrsys, parafeddygon, Ambiwlans Sant Ioan a'r heddlu.
Mae Bws Diogelwch Caerdydd ar batrôl yng nghanol y ddinas nos Fercher, nos Wener a nos Sadwrn a bydd yn rhoi help i unrhyw un sydd ei angen. Bydd hefyd o gwmpas ar bob diwrnod timau prifysgol ac unrhyw ddigwyddiadau mawr eraill.
Rydym yn gweithio'n galed i dorri'r cysylltiad rhwng defnyddio cyffuriau a throseddu ond mae angen eich helpu chi arnom
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ewch i Dan 24/7
Mae'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan enfawr o fywydau'r rhan fwyaf o bobl ac mae'n ffordd wych o gysylltu â phobl eraill, ond cofiwch nad yw pawb rydych yn cwrdd â nhw ar-lein yn ddilys a bod eich ymddygiad yn weladwy i bawb:
Trais rhywiol (rape) yw rhyw heb gydsyniad. Gwnewch yn siŵr bob amser fod yr unigolyn arall am iddo ddigwydd ac os nad yw am iddo ddigwydd, stopiwch bob tro.
Dim ond os bydd yn gallu gwneud hynny y gall unigolyn roi cydsyniad. Ni all rhywun roi cydsyniad os bydd:
Cofiwch, os byddwch yn newid eich meddwl ac nad ydych yn gyfforddus, gallwch a dylech bob amser ddweud na.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.consentiseverything.com
I gael cymorth Argyfwng Trais a Cham-drin Rhywiol gallwch gysylltu â Llwybrau Newydd:
Mae blacmel rhywiol yn digwydd pan fydd rhywun yn bygwth rhannu eich cynnwys preifat a rhywiol ar-lein oni bai eich bod yn bodloni ei ofynion:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymorth yn revengepornhelpline.org.uk
Mae beiciau yn ffordd wych o deithio o gwmpas eich dinas newydd. Ond, maen nhw hefyd yn dargedau deniadol i ladron am eu bod yn hawdd i'w dwyn a'u gwerthu:
Mae troseddau casineb yn droseddau sy'n targedu unigolion o ganlyniad i agweddau penodol ar eu bywydau. Gall trosedd casineb ddigwydd mewn sawl ffordd, ar lafar neu'n gorfforol, a gall ddigwydd i unigolyn oherwydd ei:
Nid yw trosedd casineb byth yn dderbyniol a dylech bob amser roi gwybod amdani, naill ai i ni yn uniongyrchol neu gallwch ddefnyddio ein partneriaid yn www.report-it.org.uk