Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 8:05pm neithiwr (24 Tachwedd) ar Heol yr Eglwys, Penrhiwceiber, Aberpennar.
Dywedodd Rhingyll yr Heddlu, Darren Westall:
"Cafodd menyw 76 mlwydd oed, ei tharo â Ford Focus glas. Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle o ganlyniad i'w hanafiadau.
"Rhoddwyd gwybod i'w pherthnasau agosaf, ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Mae fy meddwl gyda'i theulu a'i ffrindiau.
"Cafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'r dyn yn dal i fod yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Merthyr Tudful.
"Rydym am glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu gan unrhyw un a stopiodd i helpu.
"Rydym hefyd yn apelio am ddeunydd fideo camera dashfwrdd, ffôn symudol neu CCTV a allai gynorthwyo'r ymchwiliad."
Cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2200397365:
Ffoniwch 101