Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yng Nghae Fardre wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol y penwythnos hwn.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr ystad dros yr wythnosau diwethaf a achosodd bryder ymysg trigolion.
Bydd y gorchymyn gwasgaru, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn gymwys i bobl 16 oed a throsodd a bydd yn weithredol am 48 awr o 6pm ddydd Gwener 4 Tachwedd i 6pm ddydd Sul 6 Tachwedd. Bydd yn cwmpasu'r ardal a ddangosir ar y map.
Bydd swyddogion heddlu a PCSOs yn gallu gorchymyn i unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, adael yr ardal. Bydd ganddynt hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Leigh Parfitt:
“Byddwn yn cynnal patrolau amlwg iawn yn y gymuned er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
“Rwy'n awyddus i ddatrys y problemau parhaus hyn a sicrhau bod trigolion Cae Fardre yn teimlo'n ddiogel.
“Dewch i siarad ag aelod o'r timau os bydd gennych unrhyw bryderon. Neu, gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych ar-lein drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.”
Mae swyddogion yn Rhydyfelin wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol y penwythnos hwn.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dros Galan Gaeaf a achosodd bryder ymysg trigolion.
Bydd y gorchymyn gwasgaru, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn gymwys i bobl 10 oed a throsodd a bydd yn weithredol am 48 awr o 6pm ddydd Gwener 4 Tachwedd i 6pm ddydd Sul 6 Tachwedd. Bydd yn cwmpasu'r ardal a ddangosir ar y map.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth hon, caiff unrhyw un rhwng 10 a 16 oed ei ddanfon i gyfeiriad ei gartref neu fan diogel. Bydd gan Swyddogion yr Heddlu a PCSOs hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Leigh Parfitt:
“O ganlyniad i'r digwyddiadau lle'r oedd plant yn taflu wyau a thân gwyllt dros Galan Gaeaf yn Rhydyfelin, bydd fy Nhîm Plismona yn y Gymdogaeth ac adnoddau ychwanegol yn cynnal patrolau amlwg iawn yn y gymuned i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau, er mwyn sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel.”
“Dewch i siarad ag aelod o'r timau os bydd gennych unrhyw bryderon. Neu, gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych ar-lein drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.”
Mae swyddogion yng Nglynrhedynog wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol y penwythnos hwn.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dros Galan Gaeaf a achosodd bryder ymysg trigolion.
Bydd y gorchymyn gwasgaru, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn gymwys i bobl 10 oed a throsodd a bydd yn weithredol am 48 awr o 6pm ddydd Gwener 4 Tachwedd i 6pm ddydd Sul 6 Tachwedd. Bydd yn cwmpasu'r ardal a ddangosir ar y map.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth hon, caiff unrhyw un rhwng 10 a 16 oed ei ddanfon i gyfeiriad ei gartref neu fan diogel. Bydd gan Swyddogion yr Heddlu a PCSOs hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Mark Saunders:
“Roedd ymddygiad rhai unigolion yng Nglynrhedynog dros benwythnos Calan Gaeaf yn annerbyniol ac ni chaiff ei oddef. Bu gangiau mawr yn taflu wyau at geir ac yn taflu tân gwyllt at bobl a cherbydau.
“Y penwythnos hwn, bydd gan y tîm adnoddau ychwanegol a bydd yn cynnal patrolau amlwg iawn yn y gymuned i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau, er mwyn sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel.”
“Dewch i siarad ag aelod o'r timau os bydd gennych unrhyw bryderon. Neu, gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych ar-lein drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.”