Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:26 20/12/2022
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad difrifol yn Llaneirwg, Caerdydd.
Ychydig cyn 11.20pm ddydd Gwener 16 Rhagfyr, galwyd yr heddlu i adroddiadau o ddyn yn wynebu ymosodiad yn y Melrose Inn.
Mae Daniel Liam Holdham, 33, o Dredelerch, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ac roedd disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (Dydd Llun, 19 Rhagfyr)
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Andy Miles o Heddlu De Cymru: “Er bod hwn yn ddatblygiad arwyddocaol yn ein hymchwiliad, rydym yn apelio am wybodaeth o hyd.
“Yn benodol hoffem siarad ag unrhyw un a oedd yn y Melrose Inn nos Wener, 16 Rhagfyr.”
Mae dyn 29 oed yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol wael.
Mae ail ddyn, 32 oed, a arestiwyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar fechnïaeth yr heddlu nes y caiff ymholiadau pellach eu gwneud.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol can ddyfynnu'r cyfeirnod 2200421348.
💻Ar-lein ar https://mipp.police.uk/operation/62SWP22B58-PO1
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
📧 E-bostio [email protected]
📞 101