Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros gyfnod o dair wythnos, mae patrolau amlwg iawn wedi bod ar waith yn yr ardal yn ystod y dydd a phatrolau gan swyddogion mewn dillad plaen bob nos rhwng 6pm a 2am.
Nod yr ymgyrch oedd tarfu ar weithgarwch anghyfreithlon, atgyfeirio pobl agored i niwed at asiantaethau partner, a sefydlu ymyriadau hirdymor.
Mae rhai o'r canlyniadau yn cynnwys y canlynol:
Dywedodd yr Arolygydd Stuart McDean, o Heddlu De Cymru: “Bydd mynd i'r afael yn gadarn â phryderon ynghylch troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Stryd Tudor, yn enwedig yn Litchfield Court, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i swyddogion lleol a bydd patrolau rheolaidd mewn lifrai ac mewn dillad plaen yn parhau.
“Rydym yn deall y gall ymddygiad annerbyniol o'r fath fod yn fygythiol ac yn amhleserus i breswylwyr.
“Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd ac asiantaethau eraill er mwyn dod o hyd i atebion tymor hwy i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol.
“Fel bob amser, byddem yn awyddus iawn i glywed gan breswylwyr a all ddarparu gwybodaeth am y rhai sy'n gyfrifol am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Yn ystod yr ymgyrch, ymwelodd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir â dau safle manwerthu ac atafaelwyd bron 400 o becynnau o dybaco anghyfreithlon, a oedd yn werth tua £6,500.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion posibl o ddelio cyffuriau neu bobl sy'n rhan o weithgarwch troseddol arall i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddefnyddio'r dulliau canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📧 E-bostiwch [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.