Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Ffordd St Helen, Abertawe ddydd Gwener 2 Rhagfyr wedi'i enwi'n Alex Lewis, 19 oed, o'r Cocyd yn Abertawe.
Mae teulu Alex wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Alex yn un o'r bobl fwyaf annwyl, gofalgar, cyfeillgar a charedig y gallech fyth gwrdd ag ef. Roedd yn berson tawel ond byddai'n gwneud ffrindiau ym mha le bynnag y byddai'n mynd. Roedd ganddo wên a fyddai'n goleuo'r ystafell a byddai bob amser yn gwneud i chi chwerthin.
“Roedd ganddo lawer iawn o ffrindiau o'i blentyndod ac o'i waith, a gweithiodd yn galed i brynu'r pethau roedd yn eu hoffi, gan gynnwys ei feic modur, yr oedd yn ymfalchïo ynddo. Roedd yn mwynhau mynd allan i yrru gyda'i ffrindiau ac ar ei ben ei hun i wylio'r haul yn machlud.
“Rydym wedi cael cymaint o negeseuon a theyrngedau gan ffrindiau a theulu.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan y rhai a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu. Mae'n gadael gwacter yn ein bywydau na ellir byth ei lenwi. Gorffwys mewn hedd Alex, ein bachgen hyfryd. Byddwn yn dy garu am byth XXX.
“Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl wasanaethau brys a ymatebodd i'r ddamwain ac yn enwedig i griw'r ambiwlans a'r parafeddygon a wnaeth eu gorau glas i geisio ei achub. Diolch.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth neu fideo camera dashfwrdd, cysylltwch â'r heddlu.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw un nad yw wedi cysylltu eto ac a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu y gall fod ganddo fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad, neu a welodd y modd yr oedd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.
Oherwydd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn dilyn cyswllt â Heddlu De Cymru, cyfeiriwyd y digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sydd wrthi'n cynnal ymchwiliad annibynnol ar wahân mewn perthynas â'r cyswllt â'r heddlu cyn y gwrthdrawiad.
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200406425.