Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gareth Llewellyn, 40, ei frawd, Lee Llewellyn, a'u partneriaid, wedi'u carcharu am gyfanswm o fwy na 13 mlynedd ar ôl cael eu heuogfarnu am droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Ymddangosodd Gareth Llewellyn yn y llys ym mis Ebrill ac ymddangosodd Lee Llewellyn a phartneriaid y ddau yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth (29 Tachwedd) ar ôl i swyddogion ganfod eu bod yn rhan o droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn ôl ym mis Gorffennaf 2020 a gweithredu gwarant i'w dwyn o flaen eu gwell.
Torrodd swyddogion a oedd yn gweithredu ar gudd-wybodaeth i mewn i eiddo ar Bute Street, #Aberdâr, a oedd yn cynnwys dau fflat a ddefnyddiwyd gan y brodyr Llewellyn, y ddau o Aberdâr, ynghyd â'u partneriaid, Sian Jones, 42 oed, o Waun Wen, Abertawe, a Hayley Lloyd, 36 oed, o Aberdâr.
Yn ystod y chwiliad, daeth y swyddogion o hyd i swm o heroin wedi'i baratoi ar gyfer delio ar y stryd, arian parod a nifer o ffonau symudol. Cafodd y pedwar eu harestio, eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa nes eu dyddiad yn y llys.
Cafodd y pedwar eu heuogfarnu am gynllwynio i gyflenwi heroin:
• Dedfrydwyd Gareth Llewellyn, 40 oed o Aberdâr, i bum mlynedd a saith mis
• Dedfrydwyd Lee Llewellyn, 42 oed o Aberdâr, i ddwy flynedd a phedwar mis
• Dedfrydwyd Hayley Lloyd, 36 oed o Aberdâr, i bedair blynedd
• Dedfrydwyd Sian Jones, 42 oed o Waun Wen, Abertawe, i 22 mis, wedi'i ohirio am ddwy flynedd
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones y byddai'r heddlu'n parhau i dargedu'r rheini sy'n cyflenwi cyffuriau ledled Rhondda, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd:
“Roedd y pedwar unigolyn mor ddigywilydd wrth gyflenwi cyffuriau nes eu bod yn cynnal eu busnes bellter byr o Orsaf Heddlu Aberdâr gan gredu na fyddent yn cael eu dal.
“Mae cyflenwyr cyffuriau yn targedu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas heb unrhyw ystyriaeth i neb heblaw eu hunain.
“Mae'r ddedfryd yn anfon neges gref i ddarpar droseddwyr eraill ein bod ni, ynghyd â'n heddluoedd partner, yn parhau â'n hymdrechion i dargedu unigolion dan amheuaeth a chadw ein cymunedau'n ddiogel.”