Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
00:00 25/06/2022
Wrth i ni ymuno â miloedd o bobl eraill ledled y DU i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan dalu teyrnged i deuluoedd milwyr, cyn-filwyr, cadetiaid a'r rhai a fu farw, mae'n bleser gan Heddlu De Cymru gyhoeddi mai nhw yw un o'r heddluoedd diweddaraf i ymrwymo i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.
Mae'r cyfamod yn rhan o fenter y llywodraeth i hyrwyddo dealltwriaeth well rhwng milwyr a'r cyhoedd. Addewid gwirfoddol ydyw sy'n annog elusennau, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion i gydweithio â milwyr er mwyn cynnig cefnogaeth i aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd yn ogystal â milwyr wrth gefn a chyn-filwyr.
Gwneir Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog rhwng aelodau presennol a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, sy'n byw ac yn gweithio yn ardal ddaearyddol Heddlu De Cymru (sy'n cynnwys cynghorau sir Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf).
Datganiad gwirfoddol o gyd-gymorth rhwng cymuned sifilaidd a'i chymuned Lluoedd Arfog leol yw Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.
Pwrpas y Cyfamod Cymunedol hwn yw annog cefnogaeth i'r gymuned Lluoedd Arfog sy'n byw ac yn gweithio yn ardaloedd daearyddol Heddlu De Cymru er mwyn cydnabod a chofio'r aberth a wnaed gan aelodau'r gymuned hon, yn enwedig y rhai sydd wedi rhoi fwyaf. Mae hyn yn cynnwys aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a'u gwŷr/gwragedd gweddw.
Darllenwch fwy am ein haddewid yma.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog a theuluoedd aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog. Fel swyddogion Heddlu De Cymru ei hun, mae aelodau o'r lluoedd arfog yn rhoi popeth i wasanaethu eu cymunedau ac mae'n gwbl briodol bod y cymunedau hynny'n eu cefnogi hwythau pan fo angen hynny.
“Mae'n bleser mawr gennyf lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac i ni ymrwymo fel sefydliad i sicrhau bod aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn cael eu trin yn deg.”
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Drwy lofnodi'r cyfamod hwn, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i'r rheini sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu dros eu gwlad. Rhaid iddynt gael eu trin ag urddas, parch a thegwch.
“Rydym yn falch o gefnogi'r fenter hon ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu llawer o unigolion am flynyddoedd lawer wrth iddynt bontio i'r cam nesaf yn eu bywydau.”