Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y llynedd, creodd ein Canolfan Treftadaeth lyfryn i nodi bywyd Billy Spiller, swyddog heddlu ym Mro Morgannwg am 32 mlynedd a sbortsmon amryddawn a gyrhaeddodd statws arwrol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif fel chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru a chwaraewr criced o'r radd flaenaf.
Mae'r llyfryn, a luniwyd yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn cynnwys ffotograffau a ffynonellau gwreiddiol er mwyn adrodd stori Billy a chodi ymwybyddiaeth o'i waith fel swyddog yr heddlu a'i lwyddiannau yn y byd chwaraeon.
Billy Spiller: Y Dyn a'i Ddoniau
Yn fuan ar ôl i'r llyfryn gael ei greu, daliodd sylw wyres Billy Spiller, Christine Dobson, a gysylltodd â Chanolfan Treftadaeth yr heddlu yn ddiweddarach.
Mae Christine a thîm y Ganolfan Treftadaeth wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd drwy'r flwyddyn, a ddoe, aeth ei theulu a hithau i bencadlys yr heddlu er mwyn cwrdd â'r Prif Gwnstabl a chael taith o amgylch y Ganolfan. Yn ystod yr ymweliad cyflwynwyd copïau caled o lyfryn Billy Spiller i aelodau o'r teulu.
Christine (eistedd ar y dde) a'r teulu gyda'r Prif Gwnstabl ym mhencadlys yr heddlu.
Yn ystod ei hymweliad â phencadlys yr heddlu, dywedodd Christine:
“Fe wnaethon ni wir fwynhau ein hymweliad â phencadlys yr heddlu heddiw, yn enwedig y Ganolfan Treftadaeth. Fe wnaeth y gwaith ymchwil ar fy nhad-cu argraff fawr arnon ni. Roedd yn gymaint o gymeriad ac yn ddyn hyfryd, ac mae'n cael ei golli'n fawr o hyd.”
Y teulu yn mwynhau taith o amgylch Canolfan Treftadaeth yr heddlu
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Gall stori dda ddod â phobl ynghyd mewn ffyrdd annisgwyl, ac mae stori Billy Spiller wedi llwyddo i wneud hynny. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i gwrdd â Christine a'r teulu ddoe, ac i glywed ei hatgofion am ei thad-cu.
Mae'n bwysig ein bod yn rhannu ein treftadaeth a straeon eithriadol fel un Billy, oherwydd fel rydym wedi ei weld heddiw, mae ganddynt y potensial i'n helpu i ymgysylltu'n agosach â theuluoedd yr heddlu a chymunedau.”
Cafodd y llyfryn ei lunio ar y cyd â chyn-Brif Swyddog Heddlu De Cymru, Gareth Madge, sydd bellach yn cefnogi'r Ganolfan Treftadaeth fel cynghorydd gwirfoddol. Roedd Mr Madge yn bresennol yn ystod yr ymweliad heddiw a dywedodd:
“Pleser pur oedd helpu i ddatblygu stori Billy Spiller, ac roedd hi'n bleser hefyd cwrdd â'i deulu ddoe ym Mhencadlys yr Heddlu.
Roedd hwn yn brosiect diddorol iawn i fod yn rhan ohono, a hoffwn ddiolch i'r rhai a gefnogodd y prosiect, yn enwedig Andrew Hignell o Glwb Criced Morgannwg.”
Mae Billy Spiller: Y Dyn a'i Ddoniau ar gael i'w ddarllen a'i lawrlwytho drwy wefannau prosiect Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru: Billy Spiller | Prosiectau | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Os hoffech rannu straeon plismona aelodau eich teulu a'ch hynafiaid, rhannwch nhw â'n Canolfan Treftadaeth drwy e-bostio [email protected]