Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn 2021, arweiniodd y Ganolfan Dreftadaeth brosiect ymchwil i adrodd hanes y cyn-swyddog a'r sbortsmon amryddawn, Billy Spiller.
Ganwyd Billy yn Sain Ffagan ar 8 Gorffennaf 1886. Yn 1904, pan oedd yn 18 oed, dilynodd ei dad (a oedd hefyd wedi'i enwi'n William) a'i frawd hynaf, Harry, i faes plismona. Yn ystod gyrfa a rychwantodd fwy na 30 mlynedd, gwasanaethodd Billy yng Nghaerdydd, Hirwaun a Bro Morgannwg.
Yn ystod ei yrfa fel swyddog yr heddlu, daeth Billy yn adnabyddus am ei allu ar y cae rygbi a chriced.
Rhwng 1910 ac 1913, chwaraeodd dros Gymru ddeg gwaith, ac roedd yn aelod o dîm buddugol y Gamp Lawn yn 1911. Chwaraeodd rygbi clwb i dimau Caerdydd, Sir Forgannwg, Heddlu Morgannwg a Phontypridd hefyd.
Cynrychiolodd Sain Ffagan, a Bro Morgannwg yn ddiweddarach, yn y Gynghrair Leiaf a Phencampwriaeth y Siroedd.
Sgoriodd Billy sawl rhediad yn ystod ei yrfa fel cricedwr, ond ei rediad dros Forgannwg oedd ei rediad pwysicaf oll, ar ôl i'r clwb gael ei ddyrchafu i statws dosbarth cyntaf yn 1921. Er mwyn dathlu canmlwyddiant ers ei fatiadau a dorrodd record, cynhyrchwyd y fideo byr hwn gan ddefnyddio deunydd gwreiddiol yr heddlu a ffotograffau prin o Billy ar gamau gwahanol yn ei fywyd.
Mae hanes cyfareddol Billy hefyd wedi cael ei adrodd mewn llyfryn wedi'i ysgrifennu a'i olygu gan gynrychiolwyr o'r Ganolfan Dreftadaeth ac Amgueddfa Criced Cymru. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y llyfryn heddiw.