Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Mis Hanes Menywod yn gyfle i ni ddathlu cyfraniadau amhrisiadwy menywod yn ein sefydliad, heddiw a thrwy hanes.
Fel rhan o'r dathliadau, mae ein Canolfan Treftadaeth yn rhannu straeon am y pedair menyw gyntaf a benodwyd yn swyddogion yr heddlu gan ein heddluoedd rhagflaenol ym Morgannwg, Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful.
Penodwyd y pedair menyw hyn yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Efallai nad oeddent yn gwybod hynny ar y pryd, ond gwnaethant dorri tir newydd i bob menyw sydd wedi gwasanaethu ein cymunedau ers hynny, a'r rhai a fydd yn eu gwasanaethu yn y dyfodol. Roedd hyn yn ddechrau newydd i blismona yn ne Cymru. Dyma eu straeon.
Winifred Stephens
Cwnstabliaeth Bwrdeistref Abertawe
Winifred Stephens oedd y swyddog benywaidd cyntaf a benodwyd gan unrhyw un o'n heddluoedd rhagflaenol. Ymunodd â Chwnstabliaeth Bwrdeistref Abertawe ar 23 Mehefin 1946, ar ôl gwasanaethu cymunedau'n flaenorol fel aelod o Gorfflu Heddlu Cynorthwyol y Merched (WAPC).
Ni chafodd gwaith Winifred fel WAPC mo'i anwybyddu gan y rhai o'i chwmpas. Ar ddechrau 1946, gofynnwyd iddi hi a dwy gydweithwraig arall gyflwyno adroddiadau er mwyn gwneud cais i ymuno â Heddlu Bwrdeistref Abertawe. Cyflwynodd Winifred ei chais ac, o ganlyniad, hi oedd swyddog benywaidd cyntaf y Fwrdeistref. Yn fuan ar ôl iddi gael ei phenodi, cwblhaodd 13 wythnos o hyfforddiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn cael ei neilltuo i ddyletswyddau'r heddlu.
Winifred Stephens, swyddog yr heddlu benywaidd cyntaf Abertawe.
O 1946 tan iddi ymddiswyddo yn 1951, cafodd Winifred gydnabyddiaeth am ei chyfraniadau cadarnhaol gan y papur newydd lleol a chymeradwyaeth gan y Prif Gwnstabl ar y pryd, David Turner. Cafodd Winifred y gymeradwyaeth hon am ei dewrder ac am weithredu'n gyflym wrth helpu i atal menyw rhag gwneud diwedd arno'i hun. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd ei chanmol gan y wasg leol am ei hymdrechion i atal damwain ffordd pan ddaeth trelar yn rhydd o gar ar Stryd Fawr Abertawe. Bu'n rhaid i'r cwnstabl dewr ymateb yn gyflym a chydiodd yn y trelar a'i dywys i ochr y ffordd.
Ymddiswyddodd Winifred o'i dyletswyddau gyda'r heddlu ym mis Ionawr 1951 i briodi a magu teulu. Nodwyd bod ei hymddygiad – a gafodd ei gofnodi ar ddiwedd ei gwasanaeth – yn rhagorol.
Joan Coke
Heddlu Dinas Caerdydd
Penodwyd Joan Coke, sef swyddog benywaidd cyntaf Heddlu Dinas Caerdydd, ar 15 Ionawr 1947.
Cyn iddi gael ei phenodi, bu Joan yn gwasanaethu am bron i chwe blynedd yng Ngwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl iddynt gael eu penodi, anfonwyd Joan a'i chydweithwyr i gael hyfforddiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn cael eu lleoli mewn gwahanol rannau o'r Brifddinas.
Joan Coke yn ystod gwasanaeth yr heddlu.
Yn ystod ei blynyddoedd cynnar fel swyddog yr heddlu, bu Joan yn patrolio ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd a phrysurdeb canol y ddinas. Aeth Joan, a gaiff ei chofio am ei natur benderfynol ac anturus, ymlaen i wasanaethu ymhell oddi cartref. Yn 1957, gwnaeth y penderfyniad beiddgar i newid Caerdydd am Gyprus a bu'n gwirfoddoli i wasanaeth yr heddlu ar yr ynys tan 1959. Roedd ei phrofiad yn y Canoldir yn werthfawr tu hwnt oherwydd, yn ystod ei chyfnod yno, cafodd ei dyrchafu'n Rhingyll dros dro.
Dychwelodd Joan i wasanaethu yng Nghaerdydd cyn ymuno â Heddlu De Cymru yn dilyn yr uno yn 1969. Tra bu'n gwasanaethu De Cymru, cafodd gymeradwyaeth gan y Prif Gwnstabl ar y pryd, Gwilym Morris, a hi oedd y swyddog benywaidd cyntaf i ymddeol o Heddlu De Cymru â phensiwn llawn yr heddlu yn 1973.
Yn gynharach eleni, ymddangosodd stori Joan mewn erthygl i nodi 75 mlynedd ers penodi swyddogion yr heddlu benywaidd cyntaf Dinas Caerdydd. Gallwch ddarllen yr erthygl yma: Saith deg pum mlynedd o fenywod mewn plismona yng Nghaerdydd | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Ceridwen Davies
Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tudful
Ceridwen Davies oedd y fenyw gyntaf a benodwyd yn swyddog yr heddlu gan Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tudful ym mis Tachwedd 1947. Ymunodd â'r heddlu gan ddilyn ôl troed ei thad a oedd yn gwasanaethu fel cwnstabl yr heddlu ar y pryd.
Cafodd Ceridwen ei geni a'i magu yn ardal Dowlais ym Merthyr, a dim ond 24 oed oedd hi pan ymunodd â gwasanaeth yr heddlu. Er mai Ceridwen oedd yr ieuengaf o'r pedair menyw gyntaf a benodwyd gan ein heddluoedd rhagflaenol, roedd hi'n hen ben. Bum mlynedd yn flaenorol, yn 1942, gadawodd ei chartref i astudio yn Ysgol Awyrennau Bryste. Hi oedd yr ieuengaf o 250 o fenywod eraill a oedd yn cael eu hyfforddi yno, ond gorffennodd ar ben y dosbarth gan sgorio 97% ar gyfartaledd yn ei harholiadau. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n gwasanaethu fel Archwilydd Awyrennau cyn cael ei dyrchafu'n Arolygydd â gofal.
Ceridwen Davies yw'r bedwaredd fenyw sy'n sefyll o'r chwith. Cynhadledd Menywod yr Heddlu, Aberystwyth, 1949.
Yn fuan ar ôl ei phenodi i heddlu Merthyr, cafodd Ceridwen ei hanfon i Coventry er mwyn cael ei hyfforddi. Dyna ble enillodd barch ei hyfforddwyr, a nododd fod ei hymddygiad yn Rhagorol pan orffennodd ei hyfforddiant ym mis Chwefror 1948.
Unwaith roedd Ceridwen ar ddyletswydd, ni chymerodd lawer o amser iddi ennill parch y bobl o'i chwmpas. Ym mis Hydref 1948, cafodd ei chanmol gan ynadon lleol am y ffordd hyderus y rhoddodd dystiolaeth mewn llys ieuenctid. Cafodd y gymeradwyaeth nodedig hon ei hategu gan ei chymheiriaid a gwnaethant ei throsglwyddo i’r Prif Gwnstabl ym mis Rhagfyr 1948. Ymddiswyddodd Ceridwen Davies o'i dyletswyddau gyda'r heddlu yn ystod haf 1949 – ond mae ei hetifeddiaeth fel swyddog yr heddlu benywaidd cyntaf Merthyr Tudful yn parhau.
Elsie Joan Baldwin
Cwnstabliaeth Morgannwg
Ym mis Mawrth 1948, penodwyd Elsie Joan Baldwin o Borthceri yn swyddog yr heddlu – y fenyw gyntaf i ymuno â Chwnstabliaeth Morgannwg.
Cyn ymuno â'r heddlu ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Elsie yn gwasanaethu yn Lerpwl ac yn Reading gyda'r Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol. Fel rhan o'i dyletswyddau, bu'n hebrwng Carcharorion Rhyfel i Ynys Wyth.
Elsie Joan Baldwin yn 1948.
Dair blynedd ar ôl diwedd y Rhyfel, roedd Elsie yn cyflawni dyletswyddau gwahanol fel swyddog yr heddlu gyda Chwnstabliaeth Morgannwg. Cyflawnodd y rhan fwyaf o'i gwasanaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod ei chyfnod yn y rôl, ymgymerodd Elsie â nifer o ddyletswyddau, a chafodd rhai ohonynt gryn argraff arni. Yn ystod ei gwasanaeth, bu'n rhaid i Elsie ymateb i ddigwyddiadau mewn sefydliadau seiciatrig lleol a byddai'n cael ei galw i ddigwyddiadau a oedd yn ymwneud â menywod a phlant yn aml. Er iddi edrych yn ôl ar ei gwasanaeth yn ddiweddarach yn llawn balchder, cyfaddefodd hefyd fod ei dyletswyddau yn heriol. Yn ddiweddarach, bu ei merch, April, yn hel atgofion am y ffordd y byddai ei mam yn siarad am ran waethaf ei swydd, sef darganfod cyrff marw.
Roedd Elsie Joan Baldwin yn fenyw gryf, yn feddyliol ac yn gorfforol, a heriodd gonfensiwn yn ei bywyd personol hefyd. Cyfarfu â'i phartner yn 1955 a chawsant ddau blentyn – Richard ac April – cyn penderfynu priodi yn 1970. Ar ôl marwolaeth ei gŵr 12 mis yn ddiweddarach, wynebodd Elsie yr her o fagu dau o blant fel mam sengl. Yn ôl Richard ac April, wynebodd eu mam yr her yn gadarn a sawl blwyddyn ar ôl ei marwolaeth yn 1995, gwnaethant ei disgrifio fel mam ofalgar a chariadus iawn a oedd bob amser yno ac yn falch iawn o fod wedi bod yn yr heddlu. Ni wnaeth Elsie ailbriodi.
Gwnaeth y pedair menyw hyn – yn ddiarwybod iddynt – baratoi'r ffordd i lawer o swyddogion yr heddlu benywaidd yn y dyfodol. Ni fyddwn byth yn anghofio am eu dyletswyddau a'u cyfraniadau cadarnhaol at blismona a chymunedau ledled de Cymru.