Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, nid oes unrhyw rôl yn Heddlu De Cymru na all menyw ei chwarae, ac mae'r cyfraniadau amhrisiadwy gan gydweithwyr benywaidd – heddiw a thrwy hanes – wedi helpu i greu'r sefydliad a welwch heddiw.
Fodd bynnag, roedd adeg pan nad oedd menywod yn cael cyflawni rhai rolau yng ngwasanaeth yr heddlu yn Ne Cymru. Er iddynt gyflawni dyletswyddau cynorthwyol a phatrôl dros dro yn ystod y ddau Ryfel Byd, nid oedd menywod yn cael bod yn swyddogion parhaol yr heddlu yn Ne Cymru o hyd. Newidiodd hyn ym mis Ionawr 1947 pan benodwyd carfan fach o 17 o fenywod yn gwnstabliaid Heddlu Dinas Caerdydd.
Yma gwelir y swyddogion benywaidd newydd eu penodi yn ystod eu hyfforddiant: WPCs Joan Coke, Beatrice Coleman, Natalie Davies, Gwyneth Dane, Margaret Gardner, Mary Jones, Gladys Leach, Beryl Montague, Florence Sole, Edna Trolley, Hilda Whiticombe, Elizabeth Trick, Ilma Wilson, Netta Lewis, Vera Ferrer, Agnes Sandoe a Beatrice O’Brien.
Byddai sawl un o'r recriwtiaid hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu yn eu rolau fel swyddogion yr heddlu. Byddai Vera Ferrer yn gorffen ei gwasanaeth â Heddlu Dinas Caerdydd fel Rhingyll, a byddai'r swyddogion Joan Coke a Beatrice O’Brien yn gwasanaethu gyda Heddlu De Cymru yn y pen draw ar ôl i'r heddluoedd uno yn 1969.
Yn ystod ei gyrfa, cafodd Joan Coke glod gan y Prif Gwnstabl ac, yn ddiweddarach, hi oedd y swyddog benywaidd cyntaf yn Ne Cymru i ymddeol â phensiwn llawn yr heddlu yn 1973. Ymddeolodd Beatrice O’Brien pan oedd yn Arolygydd Dros Dro, ar ôl gyrfa 30 mlynedd fel swyddog yr heddlu.
P'un a oeddent yn ei wybod ar y pryd ai peidio, byddai penodi'r swyddogion hyn yn nodi dechrau newydd yn y broses o foderneiddio plismona yn Ne Cymru. Erbyn diwedd 1947, byddai Cwnstabliaeth Bwrdeistref Merthyr Tudful hefyd yn penodi swyddogion benywaidd a byddai'r heddluoedd cyfagos ym Morgannwg ac Abertawe yn penodi eu swyddogion benywaidd eu hunain yn fuan wedi hynny.
Saith deg pum mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cofio'r menywod cyntaf a benodwyd yn swyddogion yr heddlu yng Nghaerdydd.
Ydych chi'n adnabod unrhyw enwau yn y rhestr uchod? Os oes gennych wybodaeth am unrhyw un ohonynt, cysylltwch â ni yn [email protected]. Gyda'ch help chi, gallwn ddatblygu treftadaeth ein heddlu a'i chynnal.