Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arfau a chyffuriau gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael eu hatafaelu dros y 12 mis diwethaf gan un o dimau arbenigol Heddlu De Cymru drwy amharu ar droseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol.
Eleni, mae'r heddlu hefyd wedi lansio ymgyrch newydd i fynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll. Nod ‘Ddim yr Un’ yw addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cario cyllell a grymuso cymunedau i chwarae eu rhan wrth helpu i leihau nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllyll.
Dywedodd Uwch-arolygydd Esyr Jones, arweinydd yr heddlu ar gyfer mynd i'r afael â throseddau difrifol:
“Mae'r ymdrech hon sy'n cynnwys gweithgarwch gorfodi ac addysg yn helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel a diogelu'r rhai mae pobl yn camfanteisio arnynt.
“Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos sut mae Tîm Ymgyrch Sceptre yn parhau i fynd ar ôl y rhai sy'n gysylltiedig â throseddau difrifol a throseddoldeb cysylltiedig.”
Ers dechrau mis Ebrill 2021, mae Tîm Ymgyrch Sceptre yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi:
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Jones:
“Mae ardal De Cymru yn lle diogel i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi, ond ni fyddwn byth yn llaesu dwylo. Mae mynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol yn un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru.
“Ac er ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd codi eich llais os ydych yn meddwl bod rhywun yn cario cyllell, drwy wneud hynny, gallwch helpu i sicrhau na ellir defnyddio'r arf hwnnw i achosi niwed difrifol, neu waeth. Yn y pen draw, mae'n golygu y gallech achub bywyd.”
I gysylltu â ni, ewch i https://bit.ly/SWPReportOnline, anfonwch neges breifat atom ar Facebook neu Twitter, neu e-bostiwch [email protected]
Fel arall, gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw drwy fynd i https://crimestoppers-uk.org/ neu ffonio 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Mae ymateb y gymdogaeth, ymgyrchoedd arbenigol, a thimau eraill yr heddlu yn ategu gwaith Tîm Ymgyrch Sceptre.
Ym mis Mawrth, lansiodd Heddlu De Cymru a'r Uned Atal Trais ymgyrch Ddim yr Un, sydd wedi'i hanelu at addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cario cyllell.
Gyda'n gilydd, rydym yn ymyrryd yn gynnar er mwyn mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll gyda'r nod o leihau nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllyll a nifer y bobl sy'n gysylltiedig â throseddau o'r fath.
Ewch i wefan yr ymgyrch yma: www.nottheone.co.uk