Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:47 30/03/2022
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 28 Mawrth lle cafodd ddedfryd estynedig o 12 mlynedd.
Mae'r ddedfryd yn cynnwys naw mlynedd o garchar a chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Galwyd yr heddlu i Powis View yn y Barri ar 12 Mehefin 2021 yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi cael ei thrywanu yn ei hwyneb a'i brest gan gyllell o'r gegin.
Llwyddodd i ddianc rhag John, cyn-bartner, ac aeth at gymydog am help.
Yna trywanodd John ei hun sawl gwaith mewn ymgais i gyflawni hunanladdiad.
Clywodd y llys fod y dioddefwr yn dal i gael ôl-fflachiau a'i bod yn mynd i banig llwyr, gan weld John yn ei thrywanu, pan fydd yn cau ei llygaid i fynd i gysgu.
Roedd hi'n eithriadol o ddewr ac rydym yn mawr obeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn ei galluogi i symud ymlaen o'r profiad mwyaf trawmatig hwn a dymunwn adferiad llawn iddi.
Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac mae’r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad.
Mae cam-drin a thrais domestig yn effeithio ar bobl o bob cefndir ac mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Gall yr effaith fod yn ddinistriol, angheuol a hirdymor i fenywod, eu plant, teuluoedd a ffrindiau.
Ni ddylai neb fyw mewn ofn o gael ei gam-drin. Digon yw digon. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i gadw menywod a merched yn ddiogel.
Rhagor o wybodaeth:
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.