Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymgyrch i fynd i'r afael â gwerthu cyffuriau yn Nhrelái, mae 66 o bobl wedi cael eu harestio ac mae nifer o arfau peryglus wedi cael eu tynnu oddi ar y strydoedd.
Yn ystod Ymgyrch Grey Atlantic, bu dau dîm o swyddogion yn gweithio mewn dillad plaen dros gyfnod o bedair wythnos.
Yn ogystal â chynnal patrolau ar droed, defnyddiwyd cerbydau cudd i gasglu gwybodaeth a chanfod pobl agored i niwed a oedd yn cael eu hecsbloetio gan y rhai a oedd yn masnachu mewn cyffuriau.
Gwnaethpwyd tua thraean o'r 66 o arestiadau am feddu ar gyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac roedd pum cyllell, 19 o gerbydau a £15k mewn arian ymysg yr eitemau a atafaelwyd.
Dywedodd y Rhingyll Carys Lewis, sy'n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Trelái:
Mae delio mewn cyffuriau a'r trais cysylltiedig yn achos pryder i ni a'r bobl sy'n byw yn Nhrelái.
Mae delwyr cyffuriau yn cam-fanteisio ar fregusrwydd defnyddwyr cyffuriau er mwyn elwa'n ariannol ac nid ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i ganlyniadau eu gweithredoedd. Ni fyddwn yn sefyll yn segur wrth i'n cymuned barhau i ddioddef.
Mae Ymgyrch Grey Atlantic yn anfon neges glir na chaiff troseddau o'r fath eu goddef a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i dargedu delwyr cyffuriau, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a gwneud y gymuned ehangach yn fwy diogel.
Canlyniadau llawn 🔽
⏺️ Arestiadau: 66
⏺ Achosion o Stopio a Chwilio: 47
⏺️ Arestiadau am feddu ar gyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi: 23
⏺️ Cerbydau a atafaelwyd 19
⏺️ Rhybuddion Canabis a gyflwynwyd: 8
⏺️ Gwarantau a weithredwyd: 7
⏺️ Arfau a atafaelwyd: 6 (5 cyllell, 1 bat pêl fas)
⏺️Ffatrïoedd canabis a gafodd eu cau: 2
⏺️ Arian a atafaelwyd: £15,102.97.
⏺️ Gwerth y nwyddau wedi'u dwyn a atafaelwyd: £2,000
Roedd bat pêl fas yn un o'r chwe arf a atafaelwyd yn ystod Ymgyrch Grey Atlantic
Gallwn, ac rydym yn gweithredu'n rheolaidd, ar y wybodaeth a ddarperir i ni gan y cyhoedd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni ar 101 neu rhowch wybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
Fel arall, gellir cysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.