Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi cynnal “Adolygiad Dysgu Annibynnol” fel y'i diffinnir gan y Cylch Gorchwyl a atodir. Pennwyd cwmpas y Cylch Gorchwyl hwn yn ofalus gyda'r sawl a wnaeth ei gomisiynu, sef Heddlu De Cymru (“yr Heddlu”), Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (“y Comisiynydd”) a Chyngor Dinas Abertawe (“Y Cyngor”), yn cytuno arno.
Yn gryno, ein tasg ni oedd asesu'r dogfennau dadfriffio mewnol a luniwyd gan yr Heddlu a'r Cyngor. Gofynnwyd inni graffu ar y dogfennau dadfriffio hynny a'u herio. Dyma'r hyn a wnaethom. Ni ofynnwyd inni gynnal ymchwiliad ac roedd nodau, cylch gwaith ac amcanion ein telerau penodol yn gyfyngedig o ran amser, adnoddau a chwmpas.
Gofynnwyd inni ganolbwyntio ar effeithiolrwydd y sefydliadau unigol a'r trefniadau cydweithio rhwng y priod wasanaethau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiadau ar 20 Mai 2021 ac yn hyn o beth...ceisio nodi'r materion y gellir eu hystyried o ran dysgu gwersi at y dyfodol ac ystyried arferion at y dyfodol mewn perthynas â'r meysydd canlynol:
Nid yw ein Cylch Gorchwyl yn cynnwys yn fwriadol ymchwiliadau troseddol ac erlyniadau sy'n mynd rhagddynt, unrhyw atebolrwydd sifil, troseddol neu fel arall, ac unrhyw amheuaeth o gamymddwyn unigol.
Mae tri aelod y panel yn gwbl gytûn ynghylch y safbwyntiau, casgliadau ac argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn: Jack Straw (cyn-Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe), Martin Jones (Prif Uwcharolygydd yn Heddlu De Cymru sydd wedi ymddeol bellach) a'r Athro Elwen Evans CF (Cadeirydd).
Cafodd ein Hadroddiad drafft ei rannu â'r sawl a wnaeth gomisiynu'r adolygiad ym mis Rhagfyr 2021. Rydym wedi gallu ymgysylltu â nhw ymhellach ers hynny. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ein safbwyntiau terfynol yn seiliedig ar sylwadau ychwanegol a rannwyd â ni.
Hoffem ddiolch i'r holl bobl a sefydliadau sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ein helpu i gyflawni ein gwaith. Ni allem fod wedi cyflawni'r dasg heb gyfraniadau gwerthfawr ystod eang o randdeiliaid.
Mae'n debygol bod sawl ffactor wedi cyfrannu at yr hyn a ddigwyddodd ar Waun Wen Road yn ardal Mayhill yn Abertawe ar 20 Mai 2021. Mae'r rhain yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) effeithiau cyfyngiadau symud COVID-19, yr hyn a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, ymddygiadau troseddol, dynameg economaidd-gymdeithasol, a'r ymateb i farwolaeth drasig Ethan Powell. Mae unrhyw ddadansoddiad ystyrlon o'r ffactorau hyn a'u heffeithiau ar ymddygiadau lleol, cenedlaethol ac, mewn rhai achosion, fyd-eang yn faterion cymhleth tu hwnt i ymchwilio iddynt, myfyrio arnynt a'u trafod yn gyhoeddus. Nid oes atebion syml ac ni ellir chwaith eu symleiddio. Mae'n amlwg bod yr amrywiaeth o heriau a wynebir gan Awdurdodau Lleol ac asiantaethau Plismona ar hyn o bryd yn eithriadol ac yn peri heriau nas gwelwyd o'r blaen.
Mae effeithiau andwyol pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau symud dilynol wedi cael eu nodi drwy gydol ein gwaith ymgysylltu: mae'r rhain yn cynnwys yr effaith ar y cyhoedd a chymunedau, yr effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc, ar blismona a'r heddlu, ar waith a phrosesau ymgysylltu'r Cyngor, ac ar waith partneriaeth rhwng asiantaethau. Fodd bynnag, nid oes neb wedi awgrymu mai COVID-19 oedd unig na phrif achos yr hyn a ddigwyddodd ar Waun Wen Road.
Rhaid i unrhyw asesiad o ddigwyddiadau 20 Mai 2021 ddechrau drwy gydnabod mai'r oedolion a'r bobl ifanc a gyflawnodd droseddau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb troseddol. Gan nad oedd cyfrifoldeb troseddol yn rhan o'n cylch gwaith nid ydym wedi gweld y dystiolaeth a/neu becynnau deunydd nas defnyddiwyd a roddwyd i Wasanaeth Erlyn y Goron wrth baratoi'r achos(ion) troseddol. Dangoswyd rhai o'r deunyddiau gweledol a baratowyd at ddiben yr ymchwiliad troseddol inni. Roedd y gyfres hon o ddelweddau yn gymharol fyr ac, yn anochel, yn ddetholus. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod gan yr heddlu a/neu Wasanaeth Erlyn y Goron gryn dipyn o ddeunydd. Rhaid gweld yr holl ddeunyddiau hyn er mwyn deall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd a mynd ati i arfarnu nid yn unig atebolrwydd troseddol ond hefyd ddigwyddiadau a phenderfyniadau mewn amser real. Awgrymwn y dylai ystyriaeth o'r deunydd hwn ffurfio rhan o'r ymchwiliad llawn rydym yn ei argymell (gweler isod).
Er nad yw'n rhan o'n Cylch Gorchwyl, mae'n amlwg er budd pawb dan sylw y dylid rhoi blaenoriaeth i unrhyw erlyniad(au) troseddol, a sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt ar garlam.
Ni all cydnabod y bai sydd ar y sawl sydd dan amheuaeth o dorri'r gyfraith fwrw i'r naill ochr yr angen i ystyried ac asesu cyfrifoldebau ac ymatebion yr awdurdodau perthnasol a wnaeth ddelio â'r digwyddiad hwn. Mae hefyd yn bwysig nodi bod priod rolau'r Heddlu a'r Cyngor yn wahanol iawn ac, yn anochel, yn arwain at ystyriaethau a chasgliadau gwahanol.
Gwnaeth yr heddlu benderfyniadau ar faterion yn ymwneud ag ymddygiad yr heddlu ac atgyfeiriadau ar gam cynnar. Nid yw'r ffaith y nodir hyn yn golygu y ceisir bwrw bai. Nid dyna yw ein rôl ac ni allem wneud hynny beth bynnag oherwydd y deunydd prin sydd ar gael inni. Mae risg y gwelir pa mor gyflym y tybir y gwnaed y penderfyniadau hyn fel arwydd mai prin y gwnaeth yr heddlu fyfyrio ar ei ymateb i ddigwyddiadau 20 Mai 2021 ar y cychwyn. Deallwn mai bwriad ethos Rheoliadau Ymddygiad yr Heddlu a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2020 yw annog unigolion a'r sefydliad i ddysgu a datblygu. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd adolygiadau dysgu mewnol effeithiol wrth helpu i lywio a chyflwyno'r fath ddiwylliant dysgu a datblygu.
Er na wnaeth neb farw na chael anaf corfforol difrifol (er, wrth gwrs, profwyd niwed seicolegol ac emosiynol, yn ogystal â difrod i eiddo), roedd yr ymddygiadau troseddol y noson honno yn fygythiad sylweddol i fywyd ac eiddo. Mae ymateb yr heddlu i'r ymddygiadau hyn yn anochel wrth wraidd unrhyw adolygiad o'r hyn a ddigwyddodd.
Ni fydd yn syndod nodi'r teimladau cryf oedd gan lawer o'r bobl sydd wedi siarad â ni. Mae'n bwysig ailadrodd rhai o'r safbwyntiau hynny gan eu bod yn darparu cyd-destun ar gyfer yr adolygiad hwn ac ar gyfer ymchwiliad llawn. Roedd cyfnod hir pan oedd trigolion Waun Wen Road mewn perygl, heb i'r heddlu fod yn eu diogelu. Roedd yn amlwg bod pobl yn teimlo pethau i'r byw ac yn tristáu wrth ail-fyw yr hyn a ddigwyddodd y noson honno ac yn ei sgil. Ymhlith y safbwyntiau a rannwyd â ni roedd y canlynol: “gwnaeth yr heddlu ein gadael ni lawr”, “wnaethon nhw ddim ein diogelu ni,” “gwnaethon nhw fethu â'n diogelu ni”, “doedden nhw ddim yno pan oedd eu hangen nhw arnom ni,” a “dy'n ni ddim yn deall pam na wnaethon nhw unrhyw beth”. Mae'n amlwg bod gan yr heddlu gryn dipyn o waith i'w wneud i geisio ailennyn hyder ac ymddiriedaeth yn sgil y digwyddiad hwn. Rhaid gwneud hynny ar sail dealltwriaeth lawn, agored a thryloyw o'r hyn a oedd o'i le y noson honno.
Cawsom adroddiad gan Heddlu De Cymru dyddiedig 16/8/21 o'r enw “Individual Agency Learning Review”. Mae ei baragraff cyntaf fel a ganlyn:
“This report relates to the events that occurred on the 20th May 2021 and specifically to the operational policing response to the same. The purpose of this report is therefore to provide an information briefing/interim position to the independent learning review. In terms of the enquiries undertaken to date regarding the policing response element (sic). It is acknowledged that this report does not address the wider partnership working aspects to be considered by the independent learning review”.
Dim ond 32 o dudalennau yw'r adroddiad, ac mae pum tudalen yn Eirfa Byrfoddau a ddefnyddir yn yr adroddiad. Mae'r adran “Description of the Incident” yn chwe thudalen ac yn cynnwys darnau rhannol a dethol o beth deunydd cyfyngedig. Yn anochel, felly, mae'r dadansoddiad ffeithiol yn rhannol hefyd ac mae sawl honiad yn codi cwestiynau yn hytrach na darparu atebion. Mae'r rhan fwyaf o'r deunyddiau sy'n cyd-fynd â'r adroddiad wedi'u dyddio ar ôl 20 Mai 2021. Daw Adroddiad yr Heddlu i ben gydag adran a ddisgrifir fel argymhellion.
Maent wedi'u rhifo 1 i 8.
Yn ddiweddar mae'r heddlu wedi dweud wrthym fod adroddiad y mewnol arall wedi'i ysgrifennu gan yr heddlu am y ffordd yr ymdriniwyd â'r digwyddiad, ond y penderfynwyd peidio â'i ddatgelu yn ystod y broses adolygu hon. Efallai fod rhesymau ardderchog dros y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, byddem yn cynghori y byddai unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn y dyfodol ar ei ennill o gael gweld yr holl ddeunyddiau, asesiadau ac adroddiadau a all fod yn berthnasol.
Cawsom adroddiad gan Gyngor Dinas Abertawe dyddiedig 19/8/21. Ei enw yw “A Review of the Main Findings, Recommendations and Learning from the incident in Mayhill on the 20th May 2021”. Wrth baratoi'r adroddiad hwn, ymgynghorwyd ag ystod eang o randdeiliaid. Mae'n 141 o dudalennau i gyd yn cynnwys Atodiadau, ac mae un dudalen yn Eirfa. Ceir 27 o argymhellion.
Gwnaethom gyfarfod â thrigolion lleol, athrawon a sefydliadau. Clywsom farn plant a phobl ifanc. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb am fod mor glir, cymhellol a di-flewyn-ar-dafod wrth siarad â ni. Gan nad oedd llawer o bobl am gael eu henwi rhag ofn bod unrhyw ôl-effaith, credwn mai gwell fyddai peidio ag enwi unrhyw aelod o'r cyhoedd a wnaeth ddewis siarad â ni. Eto i gyd ni fydd yr hyn a rannwyd ganddynt yn peri unrhyw syndod i'r rhai sy'n gyfarwydd â'r hyn a ddigwyddodd y noson honno.
Cawsom gyfarfodydd â chyflogeion y Cyngor a Chynghorwyr, gan gasglu safbwyntiau a deunyddiau ychwanegol yn y cyfarfodydd hynny. Roeddem yn teimlo bod modd inni graffu ar Adroddiad y Cyngor a'i herio er mwyn cynnal asesiad ar sail gwybodaeth o'r ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad dysgu.
Cawsom nifer o gyfarfodydd ag uwch-swyddogion yr heddlu. Defnyddiwyd y rhain i gasglu safbwyntiau a gwybodaeth ychwanegol er mwyn ein helpu i fynd ati i graffu ar gynnwys a chasgliadau Adolygiad Dysgu Asiantaeth Unigol yr Heddlu a roddwyd inni, a'u herio.
Drwy gydol ein gwaith ymgysylltu ac wrth lunio ein hadroddiad, rydym wedi cadw mewn cof gwmpas ein cylch gwaith, gan gydnabod ei bwysigrwydd i'r Heddlu, y Comisiynydd, y Cyngor a'r cyhoedd ar yr un pryd.
O safbwynt yr Heddlu hon yw'r ddogfen graidd y gofynnwyd inni ei hasesu er mwyn gwerthuso'r gwersi ynddi. Wrth gwrs, cafodd rhai meysydd a oedd yn peri pryder eu nodi yn Adolygiad ysgrifenedig yr Heddlu e.e. o ran (a) strwythurau rheoli a chyfathrebu; a (b) tactegau ac ymyriadau posibl. Fodd bynnag, roeddem yn pryderu bod y gwaith o nodi'r meysydd hyn yn gyfyngedig o ran cwmpas, dyfnder a chyd-destun. Fel rhan o'n Cylch Gorchwyl roedd yn ofynnol inni asesu a oedd Adolygiad yr Heddlu yn ddigon manwl i ddarparu sicrwydd bod gwersi priodol wedi'u nodi, eu harchwilio a'u dysgu. I ddechrau gwnaethom geisio profi a herio manwl gywirdeb yr adolygiad ysgrifenedig mewn cyfres o sgyrsiau ag Uwch-swyddogion yr Heddlu a chyflogeion.
Rhoddodd y sgyrsiau hyn safbwynt defnyddiol inni a dealltwriaeth lawnach o'r pryderon a'r materion dan sylw. Mae llawer o'r rhai y gwnaethom siarad â nhw yn hynod brofiadol ac ni chafodd eu dadansoddiadau o agweddau ar ymatebion yr heddlu ar 20/5/21 eu hadlewyrchu'n llawn yn yr adroddiad dyddiedig 16.8.21. Roedd eu safbwyntiau yn ychwanegiad sylweddol a chyfoethog at yr adolygiad dysgu cychwynnol. Yn ystod cyfarfodydd â'r Heddlu bu modd inni ofyn cwestiynau a wnaeth helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon ffeithiol a godwyd yn sgil yr ymatebion plismona ar y noson. Drwy'r sesiynau hynny bu modd creu darlun llawnach yn fwy seiliedig ar wybodaeth a wnaeth ddynodi nad oedd yr adolygiad ysgrifenedig cychwynnol yn gyflawn nac yn gynhwysfawr.
Er nad ein rôl ni oedd cynnal ymchwiliad nac adolygiad mewnol o'r heddlu, roeddem yn gyfrifol am graffu ar yr adolygiad dysgu a roddwyd inni a'i herio. Er mwyn ei asesu ymhellach gwnaethom ofyn am gael gweld rhai deunyddiau sylfaenol penodol er mwyn samplu a phrofi cadernid meysydd penodol o'r adolygiad mewnol. Isod dangoswn ein methodoleg wrth gyflawni'r dasg hon.
Gwnaethom ofyn am ddeunyddiau megis recordiadau o alwadau ffôn a wnaed gan y cyhoedd i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod y digwyddiad, ac fe'u rhoddwyd inni. Yn y bôn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yw Ystafell Rheoli a Chyfathrebu Ganolog Heddlu De Cymru. Yn ystod y digwyddiad cafodd alwadau gan y cyhoedd, negeseuon gan yr heddlu oedd yno, ffrydiau o'r cyfryngau cymdeithasol a delweddau CCTV o'r lleoliad. Rhaid i'w weithrediadau, ei rôl a'i ryngweithio â strwythurau rheoli ar y noson fod yn rhan annatod o unrhyw asesiad o'r hyn a ddigwyddodd. Mae gwerthusiad cynhwysfawr o ddeunyddiau sylfaenol, megis y galwadau hyn a mathau eraill o ryngweithio, yn hanfodol er mwyn cynnal adolygiad cadarn o'r hyn a ddigwyddodd ac mae'n well sail i ddysgu nag unrhyw grynodeb ôl-weithredol. Dim ond cyfeirio at rai o'r galwadau a wna'r adolygiad dysgu cychwynnol ac, felly, nid yw'n llwyddo i nodi natur, graddau na llinell amser yr holl wybodaeth oedd yn dod i mewn.
Mae Adolygiad Dysgu'r Heddlu yn cyfeirio at y ffaith bod yr Ystafell Reoli wedi anfon adnoddau rywle arall. Rydym wedi derbyn pwysleisiadau croes ynghylch a oedd hyn yn golygu nad oedd digon o adnoddau ar gyfer Mayhill a/neu a oedd ffocws annigonol ar anghenion Mayhill.
Gwnaethom ofyn am gael gweld recordiadau gweledol o'r lleoliad (megis postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, recordiadau o gamerâu'r heddlu a wisgir ar y corff a delweddau CCTV). Roedd hyn yn ffordd arall o asesu'r adolygiad ysgrifenedig yn erbyn deunyddiau prif ffynhonnell. Dangoswyd rhai recordiadau gweledol cymharol fyr i ni ar ffurf crynhoad o'r hyn a ddigwyddodd yno. Nid ydym yn gwybod faint o ddeunydd gweledol a gafodd ei asesu i gyd at ddibenion Adolygiad yr Heddlu: ond cawsom wybod yn ddiweddar bod cryn dipyn o ddeunydd o'r fath bellach ar gael. O'r deunyddiau gweledol rydym wedi eu gweld mae'n amlwg bod pwyntiau i'w trafod o ran y defnydd o'r heddlu yn y fan a'r lle a sut y deellir hyn ac y'i rhoddir mewn cyd-destun. Yma, hefyd, credwn fod angen gwneud rhagor o waith er mwyn deall yr hyn a ddigwyddodd a'r penderfyniadau a wnaed yn gywir ac yn gymesur.
Ar hyn o bryd ymddengys nad yw llinell amser digwyddiadau na'r cyfathrebu rhwng y rhai oedd yno, y rhai yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r rhai oedd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau rheoli wedi cael eu harchwilio'n ddigonol, ac mae angen i hyn gael ei egluro'n llawn.
Down i'r casgliad bod materion sefyllfaol, strwythurol a strategol y mae angen ymchwilio iddynt yn fanwl ac yn gynhwysfawr, er mwyn deall y darlun yn llawn a dysgu'r gwersi angenrheidiol. Er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r anghenion hyfforddi ychwanegol a nodir yn Adolygiad yr Heddlu (a ddarparwyd mewn dogfen ychwanegol o'r enw “CPD Update” dyddiedig 11/11/21), ymddengys i ni mai ymateb cyfyngedig yw hyn a bod angen dadansoddiad dyfnach, ehangach a mwy cynhwysfawr cyn y gellir nodi'r holl wersi posibl yn gywir.
Felly rydym o'r farn mai adroddiad “interim” yn wir yw'r adroddiad, fel y'i disgrifiwyd gan yr heddlu ei hun. Dylid ei ystyried yn fan cychwyn yn hytrach na'r canlyniad terfynol.
Nid ydym wedi mynd i'r afael yn benodol ag adfer y sefyllfa a darparu cymorth parhaus ar ôl y digwyddiad. Yn amlwg bu angen i'r Heddlu wneud llawer o waith yn sgil y digwyddiad hwn. Achoswyd hyn yn rhannol gan y ffordd yr ymdriniwyd â'r digwyddiad ei hun. Credwn fod yn rhaid i unrhyw asesiad ystyrlon o'r ymatebion ar ôl y digwyddiad fod yn seiliedig ar ddeall a derbyn y gwersi a ddysgwyd yn llawn. Am y rhesymau a nodir yn yr adolygiad hwn, ni chredwn y llwyddwyd i wneud hyn eto.
Er mwyn helpu gydag Adolygiad pellach a/neu Ymchwiliad nodwn isod rai o'r meysydd lle yr ymddengys i ni fod gwaith ychwanegol yn briodol ac yn angenrheidiol. Dylai hyn gynnwys gwerthusiad o'r defnydd o'r heddlu yn y fan a'r lle, y ffordd y cafodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ei rhedeg, cysylltedd/cyfathrebu rhwng y lleoliad a'r Ganolfan, cysylltedd/cyfathrebu o fewn y Ganolfan a sut a ble y gwnaed ac y cofnodwyd penderfyniadau y noson honno.
Mae cyfrifon swyddogion yr heddlu ar lefelau rheoli a gweithredol yn rhan annatod o'r gwaith o feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o benderfyniadau rheoli'r heddlu a'r defnydd gweithredol o'r heddlu ar y noson. Teimlwn y dylid casglu tystiolaeth gan y swyddogion oedd yno, nid dim ond o safbwynt y system cyfiawnder troseddol (tybiwn y bydd hyn wedi'i wneud) ond hefyd gyda'r nod o ddeall pa mor briodol oedd ymatebion yr heddlu, e.e. a oedd unrhyw adegau lle dylid bod wedi ymyrryd, ai'r ymateb trefn (anhrefn) gyhoeddus oedd yr unig ymateb/ymateb priodol?
Ein cyngor ni yw y dylid mynd ati i adolygu ac ystyried yr holl ddeunyddiau sydd ar gael, yn cynnwys cyfrifon a roddwyd, datganiadau a wnaed, cyfarwyddiadau a roddwyd, ac unrhyw sesiynau dadfriffio, ynghyd â'r holl recordiadau cyfoes, gweledol a llafar a wnaed. Byddai hyn yn cynnwys clipiau ar y cyfryngau cymdeithasol a recordiadau o gamerâu'r heddlu a wisgir ar y corff a CCTV, nodiadau swyddogion yr heddlu, cofnodion digwyddiad a pholisi (ysgrifenedig, electronig a/neu gyfrifiadurol), negeseuon radio ac ati.
Mae'n hanfodol cael llinell amser lawn yn nodi'r hyn a ddigwyddodd yn y fan a'r lle, gan ei groesgyfeirio â galwadau i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a phenderfyniadau rheoli a wnaed er mwyn gwerthfawrogi trefn digwyddiadau yn llawn. Ymddengys i ni y bydd cronoleg gynhwysfawr o'r fath yn adrodd ei stori ei hun.
Mae dogfen adolygiad dysgu'r heddlu (tudalennau 12 i 14) yn crynhoi model rheoli'r heddlu, ac mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd y Model Penderfyniadau Cenedlaethol fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau rheoli. Derbynnir bod y strwythur hwn a'r broses hon yn hanfodol wrth bennu amcanion strategol yn erbyn gwybodaeth newidiol ac asesiadau o fygythiadau, wrth ddatblygu tactegau priodol a sicrhau y'u rhoddir ar waith yn effeithiol. Rhydd ffordd gydnabyddedig a sefydledig o sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer blaenoriaethau a nodir mewn ffordd archwiliadwy ac atebol. Mae'n berthnasol ar bob lefel ac fe'i defnyddir yn gyson i ddyrannu adnoddau rhwng galwadau croes. Yn y cyd-destun hwn teimlwn ei bod yn hynod bwysig i'r broses o gasglu, asesu ac adolygu cudd-wybodaeth gael ei gwerthuso'n llawn fel rhan o'r broses ehangach o wneud penderfyniadau rheoli. Dylai ystyried recordiadau gweledol a sain (fel y'u gwelwyd ac y'u clywyd yn fyw gan swyddogion ac y cafwyd gafael arnynt wedyn yn dilyn y digwyddiad). O archwilio'r “prif ddigwyddiad” ymddengys mai am 21:18 y gofynnwyd yn ffurfiol i'r uned Cudd-wybodaeth asesu'r digwyddiadau allweddol. Derbyniwyd yn gyffredinol fod gwybodaeth yn aml yn groes i'w gilydd drwy gydol digwyddiadau 20 Mai. Er ein bod yn cydnabod heriau gwneud asesiadau cywir o gudd-wybodaeth pan fo pethau'n symud yn gyflym, dengys bwysigrwydd sicrhau bod y prosesau yn “unedig” ac mor dryloyw â phosibl fel y gellir cynnal adolygiad ac asesiad priodol ac effeithiol ex post facto. Mae rhai o'r cwestiynau allweddol a geir yma yn ymwneud â pha wybodaeth oedd ar gael, pryd roedd ar gael, sut y cafodd ei hasesu a'r graddau roedd ar gael i'r comanderiaid a'r swyddogion dan sylw.
Yn arbennig dylid gwneud rhagor o waith i gynnwys yr holl alwadau a gafwyd gan y cyhoedd ar y noson, gan gynnal adolygiad cynhwysfawr o fanylion y wybodaeth a gafwyd, y wybodaeth ddilynol a gofnodwyd ar systemau'r heddlu, pa mor briodol oedd y man lle y'i cofnodwyd a'r gwaith asesu dilynol ac unrhyw gamau a gymerwyd yng nghyd-destun hyd y digwyddiad. Un o'r pryderon posibl yw'r diffyg dealltwriaeth, yn ôl pob golwg, o'r sefyllfa o fewn y tîm Canolog pan oedd y digwyddiad ar ei anterth ac wrth siarad â'r sawl a roddodd wybod amdano.
Byddai'n werth ystyried ymhellach y broses o ddal, adolygu ac ailymweld â galwadau ‘amser byw’ a byddai dadfriffio staff y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn llawn yn ychwanegu gwerth at y broses hon. Rydym yn ymwybodol bod delweddau byw wedi'u bwydo i mewn i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae hefyd angen gwneud rhagor o waith ar y defnydd o hyn a'i effaith.
Mae angen mynd ati i archwilio ac egluro ymhellach y strwythurau rheoli aur, arian ac efydd er mwyn nodi'r materion cyfathrebu yr ymddengys iddynt godi yn ystod y digwyddiad. Nid ydym wedi llwyddo i nodi strwythur rheoli clir a nodwyd yn briodol neu a oedd ar waith. Ar sail y wybodaeth sydd ar gael inni, ni wyddom pam mai dyma'r achos yn ôl pob golwg. Hefyd rydym o'r farn ei bod yn briodol meithrin gwell dealltwriaeth o'r penderfyniadau a wnaed gan Reolwr Digwyddiadau'r Heddlu. Er y dywedwyd wrthym fod digwyddiadau eraill mewn rhannau eraill o ardal yr Heddlu, nid ydym wedi cael sicrwydd yn seiliedig ar dystiolaeth fod y digwyddiadau eraill hyn yn cyfiawnhau'r diffyg ffocws ymddangosiadol ar lefel Uwch Reoli a/neu Heddlu Canolog ar anghenion Mayhill. Gwyddom fod yr heddlu yn archwilio'r adnoddau sydd ar gael er mwyn sicrhau bod capasiti ychwanegol pan fo'r sefydliad dan bwysau, ond mae angen mynd i'r afael yn benodol â gallu ac adnoddau y noson honno er mwyn darparu sicrwydd na allai hyn ddigwydd eto.
Gwyddom fod gwaith yn mynd rhagddo ar gysylltedd rhwng yr heddlu ac asiantaethau eraill ar ffurf cynllun ‘sbardun’ sydd wedi'i baratoi ymlaen llaw. Nodwyd i ddigwyddiad Waun Wen Road, Mayhill gael ei alw'n ‘ddigwyddiad critigol’ ar ôl iddo orffen. Cytunir yn gyffredinol mai hwn oedd y categoreiddiad priodol. Ymddengys mai'r farn yw y dylai hyn fod wedi'i “alw” yn gynt. Byddai gwneud hynny wedi darparu mwy o ffocws a brys i reoli'r digwyddiad fel mater o flaenoriaeth. Yn bwysig byddai hyn, ar yr un pryd, yn darparu sail gymesur, angenrheidiol a chyfiawnadwy dros ddelio â digwyddiadau eraill ledled ardal yr heddlu heb roi “sylw priodol” i fesurau perfformiad a safonau ymateb eraill a dderbynnir yn gyffredinol.
Hefyd mae angen mynd i'r afael â phrosesau gwneud penderfyniadau ac ymatebion penodol, a'u hegluro, mewn perthynas â'r galwadau ffôn a ddaeth i law, y ffordd y cawsant eu recordio a'u trin, a'r ffordd y cafodd gwybodaeth oedd yn cyrraedd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ei pharu â'r hyn oedd yn cael ei weld gan Swyddogion yr Heddlu yn y fan a'r lle. Un enghraifft benodol oedd pan nodwyd ‘bygythiad i fywyd’ o ran unigolyn oedd yn hynod agored i niwed a arweiniodd at ddefnyddio swyddogion â tharianau. Deallwyd a galwyd y bygythiad a'r risg gyfatebol i'r unigolyn yn ‘fygythiad i fywyd’ ond nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o'r broses gwneud penderfyniadau honno. Gwnaeth y swyddogion ‘dynnu'n ôl’ yn ddiweddarach ac er i hynny ddiogelu swyddogion yn fwy, mae angen gwneud mwy o waith i weld sut y cafodd y bygythiad parhaus i'r dioddefwr ei asesu a sut y gellid ei leihau drwy ddefnyddio swyddogion mewn ffyrdd tactegol pellach. Yn wir, ymddengys fod y dioddefwr hwn, a dioddefwyr eraill yn y digwyddiad, wedi cael eu ‘colli’ am beth amser yn ystod y prosesau gwneud penderfyniadau ac ymateb.
Wrth gwrs, mae'r pryder hwn wrth wraidd unrhyw asesiad o'r digwyddiad ac mae angen mynd i'r afael ag ef yn benodol er mwyn cael unrhyw sicrwydd ystyrlon bod gwersi wedi cael eu dysgu'n briodol.
O ran hyn a'r defnydd arall o swyddogion yn y digwyddiad, mae angen gwneud mwy o waith er mwyn archwilio'r ffordd y'i rheolwyd ac a ddylid bod wedi nodi strwythur mwy priodol. Gyda nifer mawr o swyddogion yno, llawer ohonynt yn weladwy i'r cyhoedd y tu allan i Orsaf Heddlu Townhill ac eraill yn sefyll o fewn golwg y digwyddiad ei hun, dylai'r defnydd ohonynt gael ei asesu ar ffurf dadfriffio uniongyrchol, a'i brofi yn erbyn y Model Penderfyniadau Cenedlaethol a'r strwythur rheoli a gydnabyddir yn genedlaethol.
Gwnaethom siarad ag uwch-swyddogion am ddull “cymysg” o ddechrau plismona digwyddiadau a allai droi'n anhrefn gyhoeddus ar raddfa fawr. Mae gennym wybodaeth am nifer y swyddogion a anfonwyd i'r digwyddiad. Mae'n amrywio o ryw 20 ar y dechrau i 60 a mwy erbyn oriau mân y bore ar 21 Mai. Roedd swyddogion Taser awdurdodedig a swyddogion cŵn yn bresennol, ynghyd â llawer o swyddogion eraill mewn lifrai, ond nid ydym yn siŵr o'r penderfyniadau ynghylch eu defnydd.
Rydym wedi gweld peth deunydd fideo o'r defnydd o'r Heddlu yn y digwyddiad. Dylai gael ei brofi a'i fesur yn erbyn yr hyn a nodir yn Adroddiad yr Heddlu. Mae hefyd yn codi cwestiynau am dactegau gweithredol yn y digwyddiad. Er enghraifft, pan ddaw swyddogion â tharianau allan o fan heddlu, gellir gweld nifer o gerbydau heddlu eraill yn yr ardal ar y recordiadau gweledol rydym wedi eu gweld. Nid yw'n gwbl glir beth ddigwyddodd i swyddogion eraill, megis y swyddogion taser a'r swyddogion cŵn. At hynny, gwelir rhagor o swyddogion yn cario tarianau yn ddiweddarach, yn dilyn (ac yr ymddengys heb yn wybod iddynt) y penderfyniad i dynnu'r swyddogion gwreiddiol oedd yno yn ôl. Mae angen gwneud rhagor o waith ar y defnydd effeithiol o'r holl adnoddau, ynghyd â'r llinell amser, wedi'i lywio gan gudd-wybodaeth hysbys (a chudd-wybodaeth a fethwyd) er mwyn llywio gwersi at y dyfodol ymhellach a'r bygythiadau cyfatebol a wynebwyd gan y dioddefwyr. Yn wir, o'r recordiadau gweledol rydym wedi eu gweld, argymhellwn yn gryf y dylid adolygu dynameg y dorf ymhellach ar wahanol adegau ar hyd llinell amser y recordiad gweledol. Byddai hyn yn fodd i ystyried tactegau neu ymyriadau eraill. A ddylid bod wedi gwneud ymyriadau eraill ar unrhyw adeg yn ystod y noson? Mae rhai aelodau o'r cyhoedd a welodd yr hyn a ddigwyddodd wedi nodi rhai adegau posibl lle gellid bod wedi ymyrryd fel y gwnaeth rhai o Uwch-swyddogion yr Heddlu rydym wedi siarad â nhw. Rhaid i'r cydbwysedd rhwng ôl-ddoethineb a rhagweld fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o beth oedd y cyfleoedd hynny, pryd y gwnaethant godi a ble.
Byddai hefyd yn ddefnyddiol myfyrio ar benderfyniadau a wnaed ynghylch cadwyni'r heddlu yn y digwyddiad (e.e. mae deunydd fideo yn dangos cerbydau anhysbys yn gyrru i mewn i leoliad yr anhrefn) oherwydd gallai hyn eto helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r ddynameg yn y digwyddiad.
Hefyd mae angen gwneud rhagor o waith ar y cais am gymorth gan yr Uned Trefn Gyhoeddus o dan ddynodiad “Ymgyrch Scorpion.” Mae angen gwneud pryd a sut y dylid “galw'r” cymorth hwn a'r broses, os caiff ei wrthod, yn fwy amlwg. Ar noson 20 Mai gofynnwyd amdano ac fe'i gwrthodwyd ddwywaith, felly ceisiodd yr uwch-swyddog oedd yn Mayhill fynd y tu allan i'r gadwyn reoli am ei fod yn cael ei wrthod dro ar ôl tro. Deallwn hefyd fod pennaeth cynllunio'r heddlu (y cysylltwyd ag ef y tu allan i oriau ac oddi ar ddyletswydd) wedi darparu mewnbwn mewn perthynas â datblygu'r cais hwn. Hyd yn oed ar ôl i “alwad” Scorpion gael ei gwneud, ni chafodd yr Uned Trefn Gyhoeddus cymorth ar y cyd oedd ar gael o Went ei hawdurdodi i fynd i ardal Heddlu De Cymru tan i'r digwyddiad orffen i bob pwrpas. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall y drefn arwyddocaol hon o ddigwyddiadau.
Ymddengys fod diffyg cyfathrebu difrifol y noson honno. Heb ddeall yn llawn beth ddigwyddodd na pham, mae'n amhosibl dod i gasgliad ynghylch y rhesymau.
Rydym wedi cael gwybod am gamau amrywiol a gymerwyd ers y digwyddiad hwn megis hyfforddi Comanderiaid Trefn Gyhoeddus ychwanegol a darparu cyfleoedd hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn seiliedig ar senario Mayhill. Dylid canmol unrhyw welliannau. Fodd bynnag, mae'r camau a gymerir mewn ymateb i adolygiad gwreiddiol yr heddlu a'r rhai sydd eu hangen mewn ymateb i ymchwiliad cwbl seiliedig ar wybodaeth yn debygol o fod yn wahanol o ran eu natur, graddau a chwmpas.
Mae'r Awdurdod Lleol wedi cynnal adolygiad manwl o'r materion yn deillio o ddigwyddiad Waun Wen Road, Mayhill ac wedi llunio adroddiad o'r enw ‘A Review of the Main Findings, Recommendations, and Learning from the Incident in Mayhill on 20th May 2021’. Mae casgliadau ac argymhellion yr adroddiad yn llifo'n rhesymegol o'r dystiolaeth a geir ynddo.
Yn anochel, o ystyried yr holl faterion dan sylw, bydd gwahaniaeth barn am rai elfennau, ond mae'r adroddiad yn darparu'r sail hanfodol i gynllun gweithredu cadarnhaol a ddylai, dros amser, ddangos bod y gwersi a ddysgwyd yn sgil y digwyddiad hwn wedi arwain at newid cadarnhaol.
Nid oes angen i'r panel ailadrodd y casgliadau a'r argymhellion a nodir yn yr adolygiad ysgrifenedig yma, nac ailddatgan yr holl fanylion a ddarperir yn adroddiad y Cyngor. Fodd bynnag, mae'r panel wedi nodi nifer o feysydd sydd, er eu bod yn cael sylw yn yr adroddiad, mor bwysig fel bod angen rhoi sylw penodol iddynt a'u monitro'n ofalus wrth i'r cynllun gweithredu gael ei roi ar waith. Crynhoir y materion hyn yma. Nid ydynt wedi'u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth.
Rydym wedi cael ein hatgyfeirio at ystod eang o bartneriaethau, fforymau, a grwpiau sydd yn aml yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol a'r Heddlu. Rydym wedi clywed bod COVID-19 wedi cael effaith andwyol ar brosesau gweithio effeithiol llawer ohonynt. Nid yw'n realistig gwneud sylw ynghylch pa mor dda y gwnaeth yr holl grwpiau unigol hyn weithio. Ein pryder ni, yn aml, yw yr ymddengys fod risg wirioneddol o weithio mewn seilo ac na wnaeth eu nifer mawr o reidrwydd arwain at bartneriaeth synergyddol, unedig na chyson.
Roedd gwahaniaeth barn ynghylch ansawdd y gydberthynas rhwng yr Heddlu a Chynghorwyr Lleol a'r Gymuned. Hwyrach ei bod yn anochel bod safbwyntiau gwahanol ynghylch yr ymgysylltu hwn ac mae pwyslais o'r newydd ar adfywio ac ail-ymgysylltu o fewn y cydberthnasau hyn yn amlwg yn bwysig.
Mae angen mynd ati ar fyrder i ailfeddwl ac ailgynllunio'r llu o bartneriaethau y nodwyd eu bod yn berthnasol yn yr adroddiad. Mae COVID-19 wedi cael effaith, heb os, ond mae angen gwneud newidiadau beth bynnag.
Mae angen i bob partner ymrwymo'n llawn a chwarae ei ran. Mae angen i'r gwaith o rannu gwybodaeth rhwng grwpiau gael ei adolygu a rhoi sicrwydd bod trefniadau yn gadarn. Mae angen profi nifer a chwmpas y grwpiau o ran eu haddasrwydd at y diben. Mae angen i'r Grŵp Datrys Problemau gael ei adnewyddu, ac mae angen ymrwymiad a rheoleidd-dra arno er mwyn bod yn effeithiol.
Mae'r gwaith o adolygu sbardunau a llunio protocol clir ar gyfer digwyddiadau difrifol a arweinir gan y tîm cynllunio brys yn hynod bwysig. Mae'n hanfodol bod dealltwriaeth glir a chytûn o'r defnydd o ymadroddion megis ‘digwyddiad difrifol’, ‘digwyddiad critigol’, a ‘digwyddiad mawr’. Ar hyn o bryd, ymddengys eu bod yn cael eu cyfnewid mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, dylid datblygu system ffurfiol i recordio a chofnodi gweithgarwch yn ystod digwyddiadau byw.
Mae angen i ddull amlasiantaethol o fonitro'r cyfryngau cymdeithasol a chasglu cudd-wybodaeth drwy drefniadau partneriaeth gael ei gynllunio, ei weithredu a'i ddefnyddio cyn gynted â phosibl.
Yn ddiau codwyd yr angen i wneud gwaith ar y barrau y gofynnwyd amdano gyda'r Cyngor yn yr wythnosau yn arwain at y digwyddiad hwn. Mae'n drueni na chafodd y gwaith ei wneud. Deallwn i'r gwaith gael ei wneud drannoeth y digwyddiad ac iddo gael ei gwblhau'n gyflym.
Clywsom wahanol farn ynghylch p'un a wnaeth a/neu i ba raddau y gwnaeth y methiant i wneud y gwaith ar y barrau y gofynnwyd amdano effeithio ar ymddygiadau a chanlyniadau ar 20 Mai. Ar sail y wybodaeth sydd gennym mae'n amhosibl inni asesu p'un a fyddai wedi cael unrhyw ddylanwad ataliol ar yr ymddygiadau troseddol a welwyd y noson honno. Hwyrach y daw hyn yn gliriach yn dilyn yr achosion troseddol.
Mae'r mater ynghylch y barrau a'r ddadl ynghylch eu heffeithiolrwydd yn codi mater ehangach: ai codi barrau yw'r ateb cywir neu orau, ac a fyddai wedi cael ei ystyried mewn rhannau eraill o'r Ddinas?
Dylai'r gymuned gymryd rhan mewn ymgynghoriad sy'n ceisio datblygu opsiynau sy'n cyflawni'r amcanion o ran diogelwch cymunedol mewn ffordd fwy ‘dyluniedig’ ac ‘esthetig’. Mae diogelwch o'r pwys mwyaf, ond mae angen ei ystyried ar y cyd â'r cysyniad o ddylunio amgylcheddol gwell.
Gwnaeth trafodaeth ag aelodau o'r gymuned a'u cynrychiolwyr ond tanlinellu bod angen meddwl yn eang am y mater hwn. Mae cymunedau Mayhill a Townhill yn wahanol ac yn falch, yn ogystal â bod yn annibynnol ar ei gilydd. Her i bartneriaid yw cydnabod hyn go iawn. Er enghraifft, nid yw datblygiadau yn Townhill yn trosi'n hawdd yn rhywbeth cadarnhaol i Mayhill ac, i rai, maent ond yn ychwanegu at ganfyddiadau o anghydraddoldeb.
Mae hyn yn her enfawr a allai fod yn destun adroddiad arall ac, gellid dadlau, dylai fod.
Mae'r gwaith o greu mannau diogel, gweithgareddau cymunedol, ymgysylltu ag ieuenctid ac ati yn gofyn am fuddsoddi mewn unigolion rhagweithiol a gaiff eu cefnogi a'u mentora yn ogystal â buddsoddi ariannol. Mae nodi, cefnogi a meithrin gallu ac adnoddau cymunedol i gyflwyno gweithgareddau cadarnhaol ym maes chwaraeon, digwyddiadau cymunedol, gweithgarwch cymdeithasol, ymgysylltu ag ieuenctid ac ati yn her sylweddol ond yn un hanfodol.
Yn olaf, ac i fod yn gwbl glir; er mai ar Waun Wen Road yn Mayhill y digwyddodd yr anhrefn ar 20 Mai 2021 nid yn Mayhill roedd gwreiddiau hynny. Mae tynnu sylw at yr angen i wella'r amgylchedd ffisegol a buddsoddi yn natblygiad y gymuned yn deillio'n amlwg o'r adolygiad dysgu, ond nid oes angen ei gysylltu â'r digwyddiad.
Ym marn y Cyngor a'r Heddlu, digwyddiad digymell oedd hwn. Mae'n anodd bod yn sicr am hyn heb weld yr holl dystiolaeth a'r deunydd sydd ar gael. Ar ddiwedd un o'n cyfarfodydd â'r Heddlu dywedwyd wrthym fod tystiolaeth yn yr ymchwiliad troseddol o gael gafael ar gerbyd ymlaen llaw gyda'r bwriad o'i ddefnyddio yn y digwyddiad. Ymddengys fod postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ymlaen llaw a allai fod wedi rhybuddio asiantaethau. Bu'r heddlu yn dilyn car cyn y digwyddiad. Bu digwyddiad yn ymwneud â char yn yr un lleoliad yn flaenorol. Gofynnwyd am farrau ychwanegol ar y ffordd ond ni ddigwyddodd hynny. Er bod y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn ymddangos fel petai'n dynodi nad oedd rhybudd clir bod anhrefn cyhoeddus ar y gweill, mae'n amhosibl bod yn sicr am hyn ar sail y wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd.
O edrych yn ôl, mae'r Heddlu wedi nodi digwyddiadau tebyg blaenorol o anhrefn yn nodi marwolaeth neu ddyddiad marwolaeth person ifanc flwyddyn a mwy yn ôl. Ymddengys yn briodol i'r ymwybyddiaeth hon arwain at yr Heddlu a'r Cyngor yn mynd ati i fonitro'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd well a chymesur.
Mae'r adolygiad dysgu wedi'i arwain gan y Cyngor yn gynhwysfawr ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Er, yn ddiau, y mae gwahaniaeth barn a phwyslais ymhlith rhanddeiliaid, mae'n sail gadarn ar gyfer cynllun gweithredu cadarnhaol a fydd yn dangos y dysgwyd gwersi effeithiol o'r digwyddiad hwn.
Mae'r panel yn argymell y dylid rhoi blaenoriaeth i'r materion canlynol yn y cynllun gweithredu fel y'u nodir yn yr adroddiad hwn.
Nid oedd adolygiad dysgu'r Heddlu yn cynnwys llawer o'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ystod ein trafodaethau â'r Heddlu ac nid yw'n adlewyrchu peth o gynnwys y trafodaethau hyn a/neu y deunydd prif ffynhonnell a aseswyd gennym. Felly credwn na all yr adroddiad presennol fod yn sail i gasgliadau cadarn. Fel y mae ar hyn o bryd nid yw'n rhoi'r sicrwydd gofynnol i'r Panel nac eraill.
Ni chafodd adolygiad dysgu'r Heddlu ei lywio gan ymchwiliad trwyadl o'r holl dystiolaeth sydd ar gael. Nodir y meysydd sydd ar goll o'r adolygiad yn gynharach yn yr adroddiad hwn.
Mae angen archwilio'r holl dystiolaeth, gwybodaeth a deunydd sydd ar gael yn llawn. Mae hyn y tu hwnt i gylch gwaith y Panel hwn ond mae angen ei wneud er mwyn sicrhau y cynhaliwyd adolygiad llawn a phriodol yn arwain at wersi priodol. Er y gall yr Heddlu wneud cryn dipyn o'r gwaith hwn yn fewnol, ein cyngor ni yw y dylai unrhyw adroddiad pellach neu derfynol gael ei asesu a'i ddilysu'n annibynnol er mwyn dangos goruchwyliaeth allanol.
Er nad yw'n fater uniongyrchol i'r Panel, nid yw'n glir sut y gallai penderfyniadau ar faterion megis camau disgyblu a meysydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus gael eu pennu'n ystyrlon cyn ymchwiliad llawnach.
Er na fu ymchwiliad llawn, mae'n glir i'r Panel bod methiannau sylweddol yn amlwg drwy gydol y digwyddiad. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu'n gryf fod methiannau o ran strwythurau a phenderfyniadau rheoli, penderfyniadau a thactegau gweithredol, a chyfathrebu. Dim ond drwy gynnal ymchwiliad fforensig y gellir pennu graddau llawn y methiannau hyn a'r esboniadau drostynt.
Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos yn glir na chafodd trigolion Waun Wen Road, Mayhill eu diogelu am gyfnod sylweddol o amser ar 20 Mai 2021. Ni fydd gwaith dadansoddi pellach yn newid hyn, ond dylai fynd i'r afael yn fwy â'r cwestiwn ‘Pam?’.
Felly mae'r Panel yn argymell:
Aelodau'r Panel: Jack Straw, Martin Jones ac Elwen Evans.