Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r panel a gynhaliodd Adolygiad Dysgu Annibynnol o’r digwyddiadau yn Mayhill a Waun Wen ym mis Mai 2021 wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau heddiw.
Rydym yn croesawu’r adroddiad a hoffem ddiolch i’r panel am eu gwaith wrth gynnal yr adolygiad. Bydd Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe yn gweithio gyda phartneriaid i roi argymhellion yr adroddiad ar waith ac i barhau i gefnogi’r teuluoedd a’r cymunedau lleol a effeithiwyd.
Mae adroddiad y panel ar gael yma.
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn ymddiheuro i drigolion Mayhill yn Abertawe am ymateb gweithredol yr heddlu i noson o anhrefn ar 20 Mai 2021.
Roedd yn glir o'r digwyddiad a'r hyn a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol fod trigolion lleol yn poeni am eu diogelwch nhw eu hunain a diogelwch eu cartrefi a'u heiddo yn ystod digwyddiad brawychus i'r gymuned.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Hoffwn ymddiheuro i bawb y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt, yn enwedig y trigolion lleol hynny a gafodd eu poenydio gan y rhai a oedd yn gyfrifol. Ni wnaethom weithredu yn ddigon cyflym ar y noson, ac mae'n ddrwg iawn gen i am hynny.
"Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau uniongyrchol i'n harferion gweithredol yn dilyn y digwyddiad hwn, gan gynnwys y ffordd rydym yn rheoli gwybodaeth am ddigwyddiad sy'n gwaethygu a'r ffordd rydym yn defnyddio adnoddau o bob cwr o Dde Cymru a thu hwnt yn gyflymach.”
O'r dechrau, mae'r heddlu wedi cydnabod pryderon y gymuned o ran yr ymateb i'r digwyddiad a chynhaliwyd adolygiad mewnol. Nodwyd sawl maes lle y gellid dysgu gwersi ar unwaith. Dilynwyd hyn gan yr Adolygiad Dysgu Annibynnol a gomisiynwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl, ar y cyd ag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Abertawe gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i archwilio'r hyn a ddigwyddodd ar y noson, beth all fod wedi'i achosi a nodi unrhyw gyfleoedd i ddysgu.
Tra bod ymchwiliad troseddol trylwyr wedi parhau, mae'r heddlu lleol wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, arweinwyr cymunedol, trigolion a phartneriaid eraill i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac ailennyn hyder ar ôl y digwyddiad. Ar yr un pryd, mae gwaith diflino wedi mynd rhagddo i nodi pwy wnaeth beth ar y noson a dwyn y rhai a gymerodd ran yn yr helynt o flaen eu gwell. Mae'r ymchwiliadau troseddol wedi arwain at gyflwyno ffeiliau i Wasanaeth Erlyn y Goron a disgwylir penderfyniadau o ran cyhuddo unigolion yn fuan.
Sbardunodd y gweithredoedd troseddol a gyflawnwyd ar y noson hon ymchwiliad mawr gan yr heddlu sydd wedi cynnwys cymryd 118 o ddatganiadau, ac mae swyddogion wedi gwylio dros 600 o glipiau fideo aml-gyfrwng yn amrywio o 11 eiliad i 12 munud o hyd. Mae swyddogion wedi archwilio pob rhan o'r deunydd hwn, ynghyd ag adolygu mwy na 23 awr o CCTV a recordiadau camera a wisgir ar y corff.
Mae'r ymchwiliad manwl a chymhleth hwn wedi cynnwys tîm o dditectifs profiadol ac wedi arwain at 46 o arestiadau, ac mae Heddlu De Cymru wrthi'n aros am benderfyniad cyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas â chyfanswm o 47 o unigolion a gymerodd ran yn yr anhrefn.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis, a oruchwyliodd yr adolygiad gweithredol cychwynnol yn dilyn y digwyddiad:
“Rwy'n gwybod bod y gymuned am weld y rhai a oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau ofnadwy hyn yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, a hoffwn ddiolch yn bersonol i'r rhai sydd wedi helpu ein hymchwiliad hyd yma ac rydym yn gobeithio y cawn benderfyniad cyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn y dyfodol agos iawn yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr i'r hyn a ddigwyddodd.
“Roedd grŵp mawr o unigolion yn rhan o olygfeydd gwarthus o anhrefn a arweiniodd at roi cerbydau ar dân a dychryn nifer o breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain, lle roedd angen help a chefnogaeth arnynt.
“Cafodd ein hymateb i'r digwyddiad hwnnw ei adolygu'n fewnol ac mae bellach wedi bod yn destun yr Adolygiad Dysgu Annibynnol sydd wedi dod i'r casgliad bod meysydd lle na wnaeth ein hymateb ar y noson gyrraedd ein safonau uchel arferol na bodloni disgwyliadau'r gymuned. Tynnir sylw at nifer o wersi mewn perthynas â'n hymateb ac rydym yn derbyn canfyddiadau'r adolygiad yn llawn.
“Rydym yn benderfynol y bydd yr hyn a ddysgwn o'r digwyddiad hwn yn parhau wrth inni ddefnyddio argymhellion yr Adolygiad Dysgu Annibynnol gyda goruchwyliaeth gan y Coleg Plismona fel y gallwn ddeall yn llawn sut y gwnaeth y sefyllfa ddatblygu ar y noson a gweithredu'n briodol.
“Mae gan Heddlu De Cymru enw da iawn am blismona digwyddiadau chwaraeon mawr a digwyddiadau rhyngwladol eraill. Mae gennym swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n dda sydd â'r sgiliau i ymdrin â'r digwyddiadau mwyaf heriol sy'n ei gwneud yn fwy rhwystredig ein bod wedi ymateb yn anghywir ar yr achlysur hwn, rhywbeth rydym yn ei dderbyn yn llawn.
“Mae'r tîm plismona lleol yn Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau i gymuned Mayhill a byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion, partneriaid a sefydliadau i sicrhau ein bod yn eu cadw'n ddiogel.”