Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Paul Abraham o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Abraham, o Dreganna, ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dwy ferch yn eu harddegau ac ymosod mewn ffordd anweddus ar un o'r merched.
Cyflawnwyd y troseddau 30 mlynedd yn ôl ar ddechrau'r 1990au.
Plediodd Abraham, 66 oed, yn ddieuog i bob cyhuddiad ond cafodd ei ganfod yn euog gan reithgor yn dilyn treial ym mis Awst 2022.
Dychwelodd i'r llys ddydd Gwener, 30 Medi a chafodd ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar. Bydd rhaid iddo dreulio dwy ran o dair o'r ddedfryd hon yn y carchar cyn y bydd yn gymwys i gael parôl.
Gwnaethom ddechrau ymchwiliad pan gysylltodd un o'r menywod â'r heddlu ym mis Tachwedd 2019.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Andrews, y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos:
“Roedd Paul Abraham yn credu na fyddai byth yn mynd o flaen ei well am gam-drin dau ddioddefwr ifanc a oedd yn agored i niwed.
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i ymchwilio i droseddau i'r eithaf, ni waeth pryd y cawsant eu cyflawni.
"Rydym yn cymryd pob honiad o drais rhywiol o ddifrif ac rydym yn annog dioddefwyr i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau o'r fath.
"Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwyr yn yr achos hwn sydd wedi gorfod byw o dan gysgod y troseddau hyn am bron 30 mlynedd.”
Ewch i'n gwefan i gael gwybod sut rydym yn helpu dioddefwyr achosion o drais ac ymosodiad rhywiol gyda chymorth gan ein sefydliadau partner a grwpiau elusennol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.