Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:59 27/07/2022
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd yn Cemetery Road, Trecynon tua 2.45pm ddydd Llun 25 Gorffennaf, wedi'i enwi fel David Jones, 75 oed, o Drecynon.
Mae teulu David Jones wedi talu teyrnged iddo yn dilyn eu colled sydyn a thrasig:
“Roedd David Jones yn ddyn teuluol ymroddedig ac mae'n gadael ei ddau fab, David a James a'i ddau frawd, Colin a Robert, ar ei ôl.
“Roedd David yn agos at ei frodyr a threuliodd lawer o wyliau gyda nhw.
“Bu'n byw yn ardal Trecynon am dros hanner canrif ac roedd yn adnabyddus iawn yn y gymuned a chanddo gylch mawr o ffrindiau.
“Mae wedi cael ei ddisgrifio fel unigolyn gofalgar a chariadus a fyddai'n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un.
“Roedd yn chwim ei feddwl ac yn meddu ar synnwyr digrifwch brathog. Roedd yn ddiflewyn ar dafod, roedd ganddo galon aur a byddai'n gwneud i bawb a oedd yn cwrdd ag ef chwerthin.
“Roedd pawb yn dwli arno, roedd yn deyrngar, yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn hael.
“Bydd yn aros yn ein calonnau am byth a bydd colled fawr ar ei ôl. Nid oes unrhyw eiriau i ddisgrifio'r golled y mae ein teulu yn ei theimlo ac yn delio â hi ar hyn o bryd.”
Mae'r teulu wedi gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr adeg anodd hon.
Mae Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â hi. Mae hefyd yn gofyn i bobl a oedd yn gyrru yn yr ardal i edrych i weld a yw eu camerâu dashfwrdd wedi recordio unrhyw ddeunydd fideo a allai fod o gymorth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gynnwys y cyfeirnod 2200249004 a mynd i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
.