Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Estynnodd Heddlu De Cymru wahoddiad i'r cyhoedd ymweld â'i bencadlys ar gyfer Diwrnod Hwyl i'r Teulu ddydd Sul 17 Gorffennaf 2022.
Drwy gydol y dydd, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ac atyniadau i bob oed. Ymhlith y rhain roedd cwrdd â'r cŵn llesiant, teithiau tywys o amgylch Canolfan Ddysgu newydd yr Heddlu a'r Ganolfan Treftadaeth er mwyn dysgu mwy am hanes plismona.
Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn prawf ffitrwydd, sy'n rhan hanfodol o'r broses o recriwtio Swyddogion yr Heddlu.
Cynhaliwyd stondinau ymgysylltu gan nifer o rwydweithiau Heddlu De Cymru, asiantaethau partner ac amryw adrannau. Ymhlith y rhain roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Achub Mynydd y Bannau Canolog ac Ambiwlans Sant Ioan.
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd dros y penwythnos.
"Diolch yn fawr iawn i holl staff Pencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ddiwrnod gwych heddiw.
“Mae fy merch am ymuno â'r heddlu, ac roedd y swyddogion a'r staff cymorth y cawson ni sgwrs â nhw heddiw yn wych ac yn gymwynasgar iawn. Dyma heddlu gwych, lle mae pawb yn gofalu am ei gilydd.
“Rwy'n gobeithio y bydd fy merch yn ymuno â lle mor wych gyda phobl wych. Diolch i chi i gyd.”
Os gwnaethoch gymryd rhan yn y prawf ffitrwydd ar y dydd ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Heddlu, mae'r swyddi gwag ar agor tan ddydd Llun 25 Gorffennaf. Gallwch wneud cais yma.