Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflwynodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Heddlu De Cymru 2022 i Neil Scourfield mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.
Ymunodd â Heddlu De Cymru fel Cyfrifydd Cynorthwyol ym mis Hydref 2007 ac ers hynny, mae wedi mynd yn ei flaen i fod yn Gyfrifydd Ariannol yn gweithio o bencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r wobr yn cydnabod dysgwr Cymraeg gorau'r flwyddyn, a'r person sydd wedi dangos yr ymrwymiad, y cymhelliant a'r brwdfrydedd mwyaf i ddysgu Cymraeg dros y 12 mis diwethaf.
Creodd brwdfrydedd Neil, ei agwedd gadarnhaol a'i ymdrechion i ddatblygu a gwella ei sgiliau Cymraeg argraff fawr ar y beirniaid, sy'n rhan o dîm Dysgu a Datblygu Heddlu De Cymru, yn ystod eu trafodaethau. Nodwyd hefyd nad oedd yr heriau a godwyd yn sgil pandemig COVID-19 wedi amharu ar y brwdfrydedd hwn.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Neil:
"Rwy'n hynod falch fy mod wedi cael fy anrhydeddu yn y ffordd hon, a hoffwn ddiolch i fy nheulu, fy nghydweithwyr a Heddlu De Cymru am yr help a'r gefnogaeth a gefais ganddynt.
"Credaf fod fy nhaith ddysgu yn nodweddiadol o'm cenhedlaeth. Doedd gen i ddim gwir ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac nid oedd yn orfodol pan oeddwn yn astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU. Wedyn, gadewais Gymru i astudio yn Llundain a theimlais don enfawr o Gymreictod pan oeddwn i'n byw oddi cartref a wnaeth fy ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg o lyfr.
"Roedd fy ngwaith hunanaddysgu yn ysbeidiol ac arafodd fy nghynnydd yn y pen draw. Ond ar ôl colli fy ngallu i yrru oherwydd problemau golwg, roedd rhaid i mi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith bob dydd, felly penderfynais ddefnyddio'r amser teithio i ailgydio mewn dysgu Cymraeg, gan ddefnyddio pecynnau fel Duolingo a Say Something in Welsh a roddodd hwb i mi.
"Wedyn, gwnes i gofrestru'n betrus ar ‘Siop Siarad’ anffurfiol Heddlu De Cymru un diwrnod a mwynhau'r profiad yn fawr iawn. Gwnes i gyfarfod â Heulwen Jones, hyfforddwr Cymraeg Heddlu De Cymru, a wnaeth fy annog i ddysgu ymhellach a gwir fagu fy hyder i achub ar bob cyfle i siarad Cymraeg."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
"Mae'n bleser gen i gydnabod ymdrechion Neil a'i longyfarch ar ei lwyddiant. Bu'n rhaid i Neil oresgyn cryn gystadleuaeth am fod gennym nifer mawr o swyddogion a staff brwdfrydig yn Heddlu De Cymru sy'n gwneud yr ymdrech i ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg. Maent yn gwneud hyn drwy ein cyrsiau dysgu a datblygu ac yn eu hamser eu hunain hefyd.
"Yn ogystal â chydnabod llwyddiant Neil, hoffwn dalu teyrnged hefyd i Heulwen, ein hyfforddwr Iaith Gymraeg a'r tîm Dysgu a Datblygu.
"Mae Heulwen yn parhau i roi cymorth cadarnhaol i'n dysgwyr, ac rydym yn ddiolchgar iddi am ei hysbrydoliaeth ddi-ffael a'i harweiniad. Mae'r tîm Dysgu a Datblygu hefyd yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno hyfforddiant, yn cynnwys podlediadau mewnol sydd wedi helpu ein dysgwyr yn fawr.
"Fel sefydliad, rydym yn parhau i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau plismona rydym yn eu cynnig, p'un a yw ein cymunedau'n dewis eu defnyddio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae'r ffaith bod cynifer o'n swyddogion a'n staff am ddysgu a gwella eu Cymraeg yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth hefyd.
"Rwy'n sicr y bydd agwedd frwd a phenderfynol Neil a chydweithwyr eraill yn ein helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog."
Gellir defnyddio’r ddolen hon i weld ein hadroddiad iaith Gymraeg blynyddol.