Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tua 3.15pm ar 27 Ionawr, aeth swyddogion i ddelio â gwrthdrawiad traffig ffordd ar y B4434 ger Gerddi Fictoria, Castell-nedd. Aethpwyd â menyw i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau difrifol. Gall Heddlu De Cymru gadarnhau iddi farw yn yr ysbyty ddydd Llun 31 Ionawr.
Mae wedi'i henwi fel Gillian Jenkins, 75 oed, o'r Cimla, Castell-nedd.
Mae ei theulu wedi rhyddhau'r datganiad canlynol yn talu teyrnged iddi:
“Mae Gillian yn gadael ei gŵr cariadus, Hugh a'i thair chwaer Myrna, Rita a Joyce.
“Magwyd Gillian yn ardal Melyn. Drwy gydol ei bywyd bydd yn cael ei hadnabod am fyw ym Melyn a Chastell-nedd.
“Ymddeolodd Gillian ar ôl treulio mwy nag ugain mlynedd yn gweithio yn ffatri gardbord David S Smith yn ardal Melyn.
“Roedd Gillian a'i gŵr yn hoffi mynd am dro gyda'i gilydd ac roedd Gillian wrth ei bodd yn siopa am ddillad am ei bod yn dwli ar ffasiwn. Byddai'n aml yn dweud y byddai'n gwario ffortiwn ar ddillad petai ganddi'r arian!
“Bydd ei theulu, ei ffrindiau a phawb a oedd yn ei hadnabod yn teimlo'r golled ar ei hôl.”
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn parhau i apelio am i unrhyw dystion a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd fideo CCTV neu gamera dashfwrdd a all fod wedi recordio'r digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu digwyddiad 2200030329.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101