Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Joshua Thomas Carney o ddinas #Caerdydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes ar ôl treisio ac ymosod yn rhywiol ar ddwy fenyw. Bydd yn y carchar am o leiaf ddeng mlynedd.
Aeth y dyn 28 oed i gartref y dioddefwyr yn ystod oriau mân y bore ddydd Mawrth, 1 Mawrth.
Llwyddodd un o'r menywod i wneud galwad 999 ddewr yn ystod y digwyddiad a chafodd Carney ei arestio wrth iddo adael y tŷ.
Cafodd ei gyhuddo o ymosodiad, ymosodiad â'r bwriad o gyflawni trosedd rywiol, pum cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol a lladrata.
Plediodd Carney yn euog a heddiw (ddydd Llun 22 Awst) cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Ian Booker o Heddlu De Cymru:
“Mae ymosodiadau gan ddieithryn o'r fath yn anarferol iawn yn Ne Cymru, ond roedd Joshua Carney yn unigolyn peryglus dros ben.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain a gwnaeth ein hymateb di-oed ar 1 Mawrth olygu bod Carney wedi cael ei arestio yn y fan a'r lle am y digwyddiad ofnadwy hwn.”
Ar ôl iddo gael ei arestio, gwrthododd Carney gael cyfweliad a lluniodd ddatganiad ysgrifenedig yn nodi nad oedd yn cofio dim am y noson. Wedi hynny, cyfwelwyd ag ef yn ei gell ac arhosodd yn dawel ac o dan ei flanced am y cyfweliad cyfan.
Fodd bynnag, cyfaddefodd i'r holl gyhuddiadau yn ddiweddarach.
Plediodd yn euog o ganlyniad i gryfder y dystiolaeth, ac felly ni fu'n rhaid i'r dioddefwyr roi tystiolaeth yn y llys.
“Ar ôl iddo gael ei arestio yn y fan a'r lle, cynhaliwyd ymchwiliad trylwyr a helaeth, a oedd yn cynnwys archwiliad fforensig, er mwyn sicrhau y gellid dwyn Carney o flaen ei well,” ychwanegodd DC Booker.
“Y digwyddiad erchyll hwn yw hunllef pob menyw ac, yn ddealladwy, mae'r ddwy fenyw wedi dioddef sioc difrifol a thrawma emosiynol.
“Bu'n brofiad arswydus iddynt ac maent wedi bod yn hynod ddewr drwy'r holl beth.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn dod â rhyw fath o ddiweddglo iddynt ac yn eu galluogi i ddechrau'r broses o adfer eu hyder.”
Mae'r ymchwiliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu menywod rhag trais, a chadw Caerdydd yn ddiogel.
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais.
Rydym yn annog pobl i gysylltu â ni er mwyn rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau.
Darllenwch fwy am dasglu Cymru gyfan newydd sy'n gweithredu ar drais yn erbyn menywod a merched.