Stamp amser presennol: 24/03/23 06:49:25
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Tasglu'n cymryd camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

11:24 30/11/2021

Mae tasglu newydd, sy'n dod ag asiantaethau allweddol at ei gilydd, wedi cael ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n gweithio i herio agweddau ac ymddygiad ledled Cymru ac i geisio ail adeiladu ymddiriedaeth ymysg menywod y bydd yr heddlu'n eu hamddiffyn nhw ac yn eu parchu nhw.

Bydd Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Emma Wools (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru) ac Eleri Thomas (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent), ac yn cael ei arwain yn weithredol gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman.

Bydd y tasglu'n sicrhau bod diwylliant yn cael ei ddatblygu na fydd yn goddef unrhyw agweddau rhywiaethol, hiliol, homoffobig na chasineb at fenywod ac a fydd yn galw ar swyddogion a staff heddlu sy'n gwasanaethu i godi llas yn erbyn agweddau o'r fath pryd bynnag y byddant yn eu gweld neu'n eu clywed.

Rydym yn gweithio i feithrin hyder y cyhoedd yng ngallu'r heddlu i fynd i'r afael yn effeithiol â thrais yn erbyn menywod a merched felly mae'n hanfodol bod cymeriad y rheini sy'n gwasanaethu i’w hamddiffyn nhw yn destun craffu. Mae'r mwyafrif helaeth o swyddogion yn darparu gwasanaeth eithriadol i'r cyhoedd bob dydd a rhaid i ni beidio â gadael i'r lleiafrif ddylanwadu'n ormodol ar ganfyddiad y cyhoedd.

Mae heddluoedd Cymru'n cydnabod bod casineb at fenywod yn broblem yn ein cymunedau ac maen nhw'n gweithio gyda phartneriaid sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill i sicrhau bod y neges yn cael ei chlywed ledled Cymru.

Meddai Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru:  "Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i blismona yng Nghymru ac rydym wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth i roi sylw i'r problemau hyn. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy; rhaid i ni ymdrechu gyda'n gilydd yn ddiwyro i leihau'r bygythiad, yr aflonyddwch a’r trais mae menywod a merched yn eu profi.

“Os ydym ni am fynd i'r afael â'r problemau hyn yn effeithiol, mae'n hollbwysig bod gan fenywod a merched ffydd yng ngallu’r heddlu i'w cadw nhw'n ddiogel. Mae digwyddiadau trasig wedi effeithio ar ymddiriedaeth a hyder llawer o fenywod yn yr heddlu, sy'n golygu ei bod yn bwysicach nac erioed ein bod yn sicrhau eu diogelwch a'u hyder. Trwy ein Tasglu Plismona yng Nghymru, ochr yn ochr ag asiantaethau cyfiawnder troseddol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn benderfynol o herio agweddau a gwireddu diwylliant o ddim goddefgarwch, gan sicrhau bod cymunedau ledled Cymru'n gallu gweld a phrofi newid cadarnhaol."

Meddai Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Eleri Thomas:  "Mae dwyn plismona yng Nghymru i gyfrif o'r pwys mwyaf er mwyn cynnal hyder y cyhoedd. Bydd tasglu sy'n gweithio ar draws yr holl asiantaethau'n cynnig gwerth ychwanegol hefyd, trwy fynd i'r afael â'r problemau ehangach yn ein cymdeithas sy'n effeithio ar ddiogelwch menywod. Rwyf yn hyderus y bydd egni ac ymroddiad pob un ohonom wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn yn cael effaith gadarnhaol yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:

"Mae menywod wedi rhannu eu pryderon a'u hofnau ac mae'n amser i ni gymryd camau cadarn yn awr i sicrhau bod ein swyddogion a staff yn cael eu dwyn i gyfrif am eu hymddygiad. Mae disgwyliadau pobl o blismona'n uchel, wrth reswm, a bydd ein neges yn glir nad oes lle i unrhyw un yn ein heddlu nad yw'n cynnal y safonau hyn.

“Rydym am i fenywod a merched ddod atom ni pan fyddant yn profi aflonyddwch neu drais, a bod yn hyderus y byddwn yn eu clywed ac yn eu credu nhw, ac y byddant yn cael eu trin â chwrteisi a pharch. Rhaid i’n hymddygiad fod o’r safon uchaf posibl er mwyn haeddu'r ymddiriedaeth hon."

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.