Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am help i ddod o hyd i Samariad trugarog a ddaeth i helpu menyw a ddioddefodd ymosodiad wrth gerdded ar hyd cronfa ddŵr Llwyn-Onn, ger Cwm Taf, Merthyr Tudful tua 8pm nos Sadwrn, 6 Awst.
Roedd y fenyw 26 oed, sy'n dod o Ferthyr Tudful, yn cerdded ei chi o gwmpas y gronfa ddŵr. Wrth gerdded ar hyd y llwybr rhwng y gronfa ddŵr a'r A470, daeth unigolyn anhysbys ati o'r tu cefn iddi, ei tharo a cheisio cydio yn nhennyn y ci.
Ar yr un pryd, roedd gwr hŷn yn cerdded tuag atynt a ffodd yr ymosodwr o'i weld. Yna, eisteddodd y dyn ar fainc gerllaw ac aros gyda'r dioddefwr hyd nes iddi ddod ati ei hun ar ôl y digwyddiad a mynd gartref yn ddiogel.
Dywedodd yr Arolygydd Mike Rudall:
“Roedd y digwyddiad hwn yn un trallodus iawn i'r dioddefwr a hoffwn gysylltu â'r Samariad trugarog a ddaeth i'w helpu.
“Efallai y bydd gan y gŵr bonheddig wybodaeth a fydd o gymorth i ni adnabod yr unigolyn a wnaeth ymosod ar y dioddefwr ac a geisiodd ddwyn ei chi.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn anarferol dros ben. Hoffwn roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd ein bod yn patrolio'r ardal yn rheolaidd ac yn gweithio gyda'n partneriaid yn Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu lleoedd diogel i ymweld â nhw a cherdded ynddynt.”
Os mai chi yw'r 'Samariad trugarog' neu'n gwybod pwy ydyw o bosibl, cysylltwch â ni gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200266147.