Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri unigolyn wedi cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa mewn perthynas â'r llofruddiaeth, ac nid yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad ar hyn o bryd.
Ond, rydym yn apelio eto er mwyn adnabod dyn a allai fod â gwybodaeth a allai fod o ddefnydd i'r tîm ymchwilio.
Gwnaed yr apêl gyntaf i ddod o hyd iddo ym mis Awst ac yna ym mis Medi, ond nid ydym wedi llwyddo i wneud hynny o hyd.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Uwch-arolygydd Stuart Wales, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Rydym yn parhau i apelio ar y dyn hwn, neu unrhyw un a all wybod pwy ydyw, i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Taclo'r Tacle yn ddienw, er mwyn i ni allu siarad ag ef.
“Pwysleisiaf eto mai tyst posibl ydyw, ac nad oes rheswm iddo ofni cysylltu â'r heddlu.
“Mae angen i ni siarad ag ef am ei symudiadau a'i ryngweithiadau yng nghanol dinas Caerdydd yn ystod yr adeg berthnasol.
“Credwn y byddai wedi bod gerllaw pen Heol y Frenhines ger y gyffordd â St John Street tua 11.30pm nos Lun 19 Gorffennaf.
“Deallwn y bu wedyn gerllaw garej Esso ar waelod Heol y Gadeirlan am 11.54pm cyn cerdded i fyny Heol y Gadeirlan i ffwrdd o ganol y ddinas.
“Rhaid i mi bwysleisio nad yw'r dyn hwn wedi gwneud dim o'i le, ond gallai fod ganddo wybodaeth bwysig a fyddai o gymorth pellach i'n hymholiadau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i Dr Gary Jenkins.
“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r gymuned am y cymorth rhagorol y mae wedi ei roi i'r ymchwiliad hwn hyd yma, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.”
Gellir cyflwyno unrhyw wybodaeth neu ddeunydd fideo a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad drwy borth ar-lein https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod *254215.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101
Gallwch hefyd gyflwyno gwybodaeth i Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.