Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:54 15/11/2021
Mae'r dyn 74 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd un cerbyd ddydd Mawrth 9 Tachwedd ar Heol Caerdydd, y Barri, wedi cael ei enwi fel David Searle, o'r Barri.
Mae'r teulu wedi talu teyrnged i David, a adwaenid gan bawb fel Dai, gan ddweud:
“Roedd ei farwolaeth yn annisgwyl iawn. Roedd yn ŵr, yn dad, yn dad-cu ac yn gyfaill arbennig.
“Roedd ganddo synnwyr digrifwch da a bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau'n fawr.”
Ychwanegodd ei wraig Yvonne:
“Roedd yn cael ei garu'n fawr a byddaf yn gweld ei eisiau tan y diwrnod y byddwn yn cyfarfod eto.”
Os gwelodd unrhyw un y gwrthdrawiad neu os oes gennych fideo ar ffilm o gamera dashfwrdd, cysylltwch â ni drwy ddyfynnu rhif digwyddiad 2100393475.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]