Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:44 07/12/2021
Pob clod i'n swyddogion cymorth cymunedol a achubodd ddyn o ffos Castell Caerdydd ar noson dywyll, oer.
Cafodd y swyddogion eu hysbysu ar ôl i aelodau o'r cyhoedd glywed dyn yn sgrechian am help.
Sgrafangodd y swyddogion i lawr yr arglawdd at ymyl y dŵr a thaflu bag hynofedd i'r dyn.
Ond roedd ei goesau yn sownd ac ni allai ei gyrraedd.
Aeth PCSO Bridgeman i mewn i'r dŵr a thynnu'r dyn i'r lan.
Rhaid sôn yn arbennig am Andrew Chandler, sy'n gweithio yn Winter Wonderland gerllaw, a helpodd i achub y dyn.
Mae Mr Chandler wedi cysylltu â Heddlu De Cymru ers y digwyddiad i ganmol PCSO Bridgeman.
“Does dim dwywaith, pe na bai wedi neidio i mewn, byddai'r dyn wedi marw. Mae'n glod i'ch heddlu ac i'r iwnifform.
“Roedd yn wlyb ac yn fwd i gyd ond, serch hynny, arhosodd (PCSO Lloyd Bridgeman) gyda'r dyn yng nghefn fan yr heddlu i wneud yn siŵr ei fod yn cynhesu cyn mynd ag ef i'r ysbyty.”
Roedd y dyn yn amlwg mewn cyflwr o sioc ac yn crynu ac aeth y swyddogion ag ef i'r ysbyty rhag ofn.
Mae bellach yn ddiogel ac yn iach.
Dywedodd yr Arolygydd Darren Grady: “Yn y pen draw, o ganlyniad i ddewrder ac ymateb cyflym y swyddogion cafodd bywyd y dyn hwn ei achub.
“Rwy'n teimlo'n falch iawn bod swyddogion fel Lloyd Bridgeman yn ein plith.
“Heb eu gweithredoedd, eu proffesiynoldeb a'u dewrder nhw, gallai ffawd y dyn hwn fod wedi bod yn wahanol iawn."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd a'r sector gwirfoddol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed ar ein strydoedd.
Rydym yn annog pobl sy'n agored i niwed i ymgysylltu â'r asiantaethau cymorth a'r gwasanaethau allgymorth niferus sydd ar gael yng Nghaerdydd.