Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Anthony Williams, 32, o Gaerdydd wedi cael dedfryd estynedig o 18 mlynedd yn y carchar ar ôl cyfaddef dau achos o ymgais i dreisio menyw, lladrata a bwrgleriaeth.
Clywodd y llys fod Williams wedi mynd i mewn i gartref un fenyw tua 5:20am, ac yna i gartref menyw arall tua 7am ar 10 Gorffennaf, 2021.
Cafodd ei arestio o fewn 10 munud i'r ail ddigwyddiad gael ei adrodd, a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau, 2 Rhagfyr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Cox o Heddlu De Cymru: “Mae ymosodiadau gan bobl ddieithr fel y rhain yn anarferol iawn yng Nghaerdydd, ond yn yr achos hwn, roedd Anthony Williams yn unigolyn peryglus iawn.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac o ganlyniad i'n hymateb brys ar 10 Gorffennaf, cafodd Williams ei arestio o fewn munudau i'r digwyddiadau ofnadwy hyn.”
Ni wnaeth Williams unrhyw sylw i ddechrau ond plediodd yn euog yn ddiweddarach.
O ganlyniad i'r dystiolaeth gadarn, plediodd yn euog, ac o ganlyniad i hyn, ni fu'n rhaid i'r dioddefwyr roi tystiolaeth yn y llys.
“Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd ymchwiliad trylwyr ei gynnal, a oedd yn cynnwys dilyn symudiadau Williams ar CCTV, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddwyn o flaen ei well,” ychwanegodd DI Cox.
“Mae hynny nawr wedi cael ei wneud, ac rydym yn gobeithio y bydd dedfryd heddiw yn rhoi diwedd ar yr achos ac yn caniatáu i’r ddwy fenyw adennill eu hyder.
“Mae’n siwr iddo fod yn brofiad hollol frawychus iddynt ac maent wedi bod yn ddewr ofnadwy drwy gydol y profiad hwn.”
Bydd Williams yn treulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl, a bydd yn treulio chwe blynedd arall ar drwydded.
Mae'r ymchwiliad yn amlygu ein hymrwymiad i amddiffyn menywod rhag trais, a chadw ein prifddinas yn ddiogel.
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais.