Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, dydd Mawrth 7 Rhagfyr, yw Diwrnod Hawliau'r Gymraeg, sef diwrnod i gyrff cyhoeddus godi ymwybyddiaeth o'r hawliau sydd gennych i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymgysylltu â ni.
A wyddech chi y gallwch:
Hefyd, mae gan ein swyddogion a'n staff yr hawl i ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau yn Gymraeg wrth weithio neu wirfoddoli gyda Heddlu De Cymru – o weld rôl yn cael ei hysbysebu gennym, i'r broses recriwtio a thrwy gydol gyrfa yn Heddlu De Cymru.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg o ddifrif ac mae Safonau'r Gymraeg yn ein helpu i atgyfnerthu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn llwyr gydnabod hawl unigolion i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg ac ni fyddwn yn trin yr iaith yn llai ffafriol na Saesneg wrth ddarparu ein gwasanaethau plismona.
Eleni, rydym wedi sefydlu cohort newydd o ‘Hyrwyddwyr y Gymraeg’ o wahanol feysydd ac adrannau ar draws yr Heddlu. Mae'r unigolion hyn, sy'n frwd dros wella gwasanaethau a darpariaeth Gymraeg o fewn y sefydliad ac yn allanol, wedi gwirfoddoli ar gyfer y rôl hon a bydd eu hymdrechion yn ategu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog.
Bu cynnydd hefyd yn y sgiliau Cymraeg a gofnodwyd ar bob lefel o fewn y sefydliad. Mae 92% o'n cyflogeion bellach yn meddu ar sgiliau Cymraeg (o Lefel 1 i Lefel 5).
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
"Rwy'n croesawu'r cyfle y mae diwrnod Safonau'r Gymraeg yn ei greu i arddangos ein gwasanaethau Cymraeg. Fel sefydliad, rydym yn parhau i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau plismona rydym yn eu cynnig, p'un a yw ein cymunedau'n dewis eu defnyddio yn Gymraeg neu yn Saesneg.
“Mae'r ffaith bod cynifer o'n swyddogion a'n staff am ddysgu a gwella eu Cymraeg yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth. Rwy'n sicr y bydd agwedd frwd a phenderfynol ein cydweithwyr yn ein helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod Heddlu De Cymru yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog."
Nid ydym bob amser yn gwneud pethau'n iawn ond rydym yn gweithio'n galed i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg wrth ymgymryd â'n busnes.
Rhowch wybod i ni ble y gallwn wella a ble rydym yn gwneud pethau'n iawn gan fod hyn yn ein helpu i hyrwyddo arferion gorau a mynd i'r afael â heriau.
I ddarllen ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar yr iaith Gymraeg, cliciwch ar y ddolen hon.