Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:05 25/08/2021
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) ychwanegol ledled Cymru.
Bydd y cyllid hwn yn helpu Heddlu De Cymru i recriwtio darpar PCSOs newydd sy'n darparu'r cyswllt hanfodol hwnnw rhwng y gymuned a gwasanaeth yr heddlu, gan wneud yn siŵr bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae PCSOs yn ymdrechu i wneud ein cymunedau'n fwy diogel ac yn gryfach drwy'r rhan y maent yn ei chwarae, ac mae eu presenoldeb amlwg yn helpu i ennyn hyder. Dyna pam rwyf yn hynod falch bod Gweinidogion Cymru wedi mynd ati mor gyflym i weithredu eu hymrwymiad maniffesto i sicrhau bod 100 o PCSOs ychwanegol ledled Cymru, ar ben y 500 y maent eisoes yn eu hariannu.
Mae eu hymrwymiad ariannol yn galluogi’r pedwar heddlu yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith recriwtio, ac adfer a chryfhau’r adnodd rheng flaen pwysig hwn ym mhob un o’n cymunedau, wrth hefyd fynd i'r afael â galwadau croes trechu troseddau treisgar, camfanteisio sy'n gysylltiedig â chyffuriau, cam-drin a thrais domestig, a throseddau ar y rhyngrwyd.
Yn yr un modd ag y gwnaethom yng Nghymru weithio gyda’n gilydd i drechu COVID-19, byddwn yn awr yn gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl agored i niwed rhag y bygythiadau a’r niwed sy’n wynebu pob cymuned.”
Mae gwaith PCSO yn cefnogi plismona rheng flaen yn uniongyrchol drwy weithio ar faterion sydd wir yn effeithio ar gymunedau lleol. Pethau fel stopio achosion o oryrru y tu allan i'n hysgolion, rhoi gwybod am achosion o fandaliaeth a lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am heriau a gwobrau'r rôl, ewch yma.