Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw gwelir dechrau ein Hymgyrch 20mya y tu allan i Ysgolion Cynradd ledled Cymru. Mae'r cyfyngder cyflymder o 20mya y tu allan i fwyafrif o Ysgolion Cynradd Cymru yno i gadw plant a rhieni'n ddiogel wrth iddynt gerdded i'r ysgol ac oddi yno.
Mae cerdded i'r ysgol yn ddewis amgen iach ac ecogyfeillgar yn lle gyrru i'r ysgol, ac ynyn ddull cynyddol boblogaidd o deithio i rieni a'u plant ar eu teithiau dyddiol i'r ysgol.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
"Mae gan ein Hymgyrch 20mya y tu allan i Ysgolion Cynradd ledled Cymru un nod allweddol, sef annog cydymffurfiaeth â'r cyfyngder cyflymder i gadw plant a rhieni'n ddiogel wrth iddynt gerdded i'r ysgol adref ar ddiwedd y dydd.
Gobeithiwn weld y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ffordd yn cydymffurfio â'r cyfyngder cyflymder, gan chwarae eu rhan i gadw'r defnyddwyr ffordd hyn sy'n agored i niwed yn ddiogel er mwyn galluogi mwy o deuluoedd i gerdded neu feicio'n ddiogel ac yn hyderus i'r ysgol.
Os gwelwch ein faniau gorfodi y tu allan i'ch Ysgol Gynradd leol dros yr wythnos yma, rydym yna i wneud y siwrne i’r ac adref ar ddiwedd y dydd yn fwy diogel."
Mae goryrru yn un o’r ffactorau mwyaf sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru a gall arwain at anafiadau difrifol. Drwy gydymffurfio â'r cyfyngiad cyflymder o 20mya y tu allan i Ysgolion Cynradd, byddwch yn lleihau'r risg o niwed difrifol i'n defnyddwyr ffordd mwyaf agored i niwed.
Prif nod GoSafe yw gwneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel a lleihau nifer yr anafiadau ar ein ffyrdd. Yr ydym bob amser yn gorfodi yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir ac yn anelu at annog cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad cyflymder.
Felly, wrth i chi deithio heibio i Ysgolion Cynradd dros yr wythnos nesaf, cymerwch eiliad ychwanegol i wirio eich cyflymder a gwneud y dewis diogel drwy yrru at y cyfyngder cyflymder. Drwy wneud hynny, byddwch yn chwarae eich rhan i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i bawb.