Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:03 16/03/2021
Crynodeb o ddatganiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ddydd Mawrth:
“Fel rhan o ymchwiliad parhaus Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohamed Hassan cyn ei farwolaeth, cyflwynwyd hysbysiadau ymchwilio i dri swyddog arall yn Heddlu De Cymru ac un swyddog cadw yn y ddalfa yn ddiweddar.
“Nid yw cyflwyno hysbysiad camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd. Mae'n hysbysu swyddog bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i'w ymddygiad.
“Rydym yn adolygu hysbysiadau camymddwyn yn ystod ymchwiliad. Ar ddiwedd ymchwiliad, bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn penderfynu a oes gan unrhyw swyddog sydd wedi cael hysbysiad achos disgyblu i’w ateb.
“...mae ymchwiliad fel hyn yn cymryd amser a gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth iddo fynd rhagddo.”
--
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi ei chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl am ei deulu ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.
Mae adroddiad llawn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gael yma: https://policeconduct.gov.uk/news/update-investigation-death-mohamud-mohamed-hassan-%E2%80%93-further-misconduct-notices-served