Stamp amser presennol: 20/03/23 20:06:06
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Marwolaeth sydyn a diesboniad Mohamud Mohammed Hassan

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

16:50 15/01/2021

Marwolaeth sydyn a diesboniad Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed

Ychydig ar ôl 10.30pm nos Sadwrn 9 Ionawr, cafodd Heddlu De Cymru alwad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i fynd i eiddo amlfeddiannaeth ar Heol Casnewydd, y Rhath, Caerdydd. Roedd yr alwad yn ymwneud â marwolaeth Mr Hassan.

Roedd Mr Hassan wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson flaenorol yn dilyn helynt yn yr un eiddo,  

ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o dor-heddwch. Cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach heb ei gyhuddo, sy'n arferol ar gyfer y drosedd hon.

Gadawodd Mr Hassan y ddalfa tua 8.30am ddydd Sadwrn 9 Ionawr.

Atgyfeiriodd Heddlu De Cymru farwolaeth Mr Hassan at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sef y drefn arferol yn achos marwolaeth yn dilyn cyswllt â'r heddlu.

Ddydd Llun 11 Ionawr, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei bod yn cynnal ymchwiliad annibynnol i gyswllt yr heddlu â Mr Hassan cyn iddo farw.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyhoeddi'r datganiad hwn:

https://policeconduct.gov.uk/news/investigation-under-way-police-contact-prior-death-mohamud-hassan-cardiff

 

CEISIADAU I RYDDHAU DEUNYDD FIDEO:

Ers hynny, mae Heddlu De Cymru wedi cael ceisiadau i ryddhau deunydd fideo o systemau teledu cylch cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff.

Rydym wedi darparu'r holl ddeunydd fideo perthnasol o systemau teledu cylch cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sydd wrthi'n cynnal ymchwiliad annibynnol i gyswllt yr heddlu â Mohamud Hassan cyn iddo farw yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 9 Ionawr.

Felly ni all Heddlu De Cymru ryddhau'r deunydd fideo tra bo Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn ymchwilio iddo.

Rydym yn cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu'r holl wybodaeth a deunyddiau y mae wedi gofyn amdanynt.

 

PROTESTIADAU YM MAE CAERDYDD:

Mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Mae heddluoedd y DU yn cydnabod ac yn cynnal yr hawl i gynnal protestiadau democrataidd ac, mewn amgylchiadau arferol, rydym yn hwyluso protestiadau heddychlon gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y cyhoedd.

Ond mae'r coronafeirws yn parhau i fod yn glefyd angheuol ac mae cyfyngiadau ar waith er mwyn ei atal rhag lledaenu.

Mae swyddogion wedi gweithio i ymgysylltu â'r rhai a oedd yn bresennol yn y protestiadau i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y Coronafeirws, gan gynnwys y gwaharddiad sy'n atal cwrdd â phobl nad ydynt yn aelodau o'ch aelwyd eich hun, a'r nod cyffredin y dylai pawb gymryd cyfrifoldeb personol drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru i Aros Gartref.

Mae gennym ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ac mae Heddlu De Cymru wedi ceisio cadw dull plismona cyson o ymgysylltu, esbonio ac annog, a gorfodi lle y bo angen os bydd popeth arall wedi methu, drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

Rydym yn parhau i ddefnyddio'r dull hwn.

 

GORFODI RHEOLIADAU COVID-19:

Gall Heddlu De Cymru gadarnhau y cyflwynwyd adroddiad gwysio i un fenyw ddydd Iau 14 Ionawr am dorri rheoliadau COVID-19 drwy drefnu digwyddiad awyr agored, sef y protestiadau a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth 12 Ionawr a dydd Mercher 13 Ionawr, y bu mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddynt.

Mae ganddi'r cyfle nawr i dalu cosb benodedig o £500 neu ofyn am wrandawiad llys.

Diben rheoliadau Llywodraeth Cymru yw diogelu'r gymuned rhag lledaeniad COVID-19, a chymerwyd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig byd-eang hwn.

Mae ymholiadau i'r protestiadau yn parhau i fynd rhagddynt a rhagwelir y caiff camau pellach eu cymryd yn erbyn unigolion eraill am dorri Rheoliadau COVID-19 a/neu am droseddau eraill.

 

Y PRIF GWNSTABL:

Mae'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn estyn ei gydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Hassan ac yn esbonio pam y cafodd marwolaeth Mr Hassan ei hatgyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu:

“Gwnaethom atgyfeirio'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i farwolaeth at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar unwaith, ac mae wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau hyn.
“Gwnaethom hyn, nid am ein bod o'r farn bod swyddogion yr heddlu wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ond am mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, er mwyn cael golwg annibynnol ar y penderfyniadau a wnaed gennym a'r camau a gymerwyd.”

Datganiad llawn:

https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2021/01---ionawr/datganiad-prif-gwnstabl-jeremy-vaughan-am-farwolaeth-mohamud-hassan/

 

COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, hefyd wedi estyn ei gydymdeimlad i deulu a ffrindiau Mohamud Hassan, ac i'r aelodau hynny o'r gymuned y mae ei farwolaeth a digwyddiadau'r penwythnos wedi effeithio arnynt.

Yn dilyn y datganiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, dywedodd Mr Michael:  “Rydym bellach yn gwybod nad oes unrhyw anaf trawma corfforol i esbonio achos ei farwolaeth, ac mae'n bwysig ein bod yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad annibynnol cyn dod i unrhyw gasgliadau am yr hyn a ddigwyddodd.”

Datganiad llawn:

https://www.southwalescommissioner.org.uk/cy/newyddion/datganiad-y-comisiynydd-yn-dilyn-marwolaeth-mohamud-mohammed-hassan/

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi ei chael ar y gymuned ehangach.

Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon, ac yn estyn ein cydymdeimlad iddynt.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.