Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu marwolaeth Mohamud Hassan yn drasiedi, a byddwn yn parhau i estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu. Nid oes eiriau a all leihau eu poen, a byddwn yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl.
Rwy'n ymwybodol bod llawer o bobl yn awyddus i ddeall yr hyn a arweiniodd at ei farwolaeth ddydd Sadwrn 9 Ionawr 2021, yn arbennig yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i aresti ddydd Gwener cyn hynny, ei amser yng ngorsaf yr heddlu a'i ryddhau o'r ddalfa.
Gwnaethom atgyfeirio'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i farwolaeth at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar unwaith, ac mae wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau hyn.
Gwnaethom hyn, nid am ein bod o'r farn bod swyddogion yr heddlu wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ond am mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, er mwyn cael golwg annibynnol ar y penderfyniadau a wnaed gennym a'r camau a gymerwyd.
Mae'n gywir ac yn briodol bod y pwerau rydym yn eu harfer yn destun craffu, a bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dod i'w chasgliadau ei hun mewn perthynas â hyn. Rwy'n parchu ei hannibyniaeth yn gyfan gwbl, ac yn deall yn llwyr awydd pobl i ddeall yr hyn a ddigwyddodd.
Fel Prif Gwnstabl, rwy'n benderfynol y byddwn yn dilyn y dystiolaeth lle bynnag y bydd yn ein harwain.
Gwn fod pobl am sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed; mae'r ffaith bod gwahaniaethu ar sail hil ac anfantais mor gyffredin ym mhob rhan o'n cymdeithas yn fater o bwys, a dylai fod modd i bobl godi llais yn ei gylch. Yn ystod amseroedd arferol, bydd plismona yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod modd i bobl arfer yr hawl hwnnw i gael eu clywed.
Nid yw'r rhain yn amseroedd arferol. Mae pandemig byd-eang yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'r feirws yn lledaenu, gan arwain at bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd y tu hwnt i'r dychymyg. Byddwn yn annog pobl i ddilyn y rheoliadau a'r canllawiau er mwyn helpu i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
Mae'n hanfodol i mi sicrhau bod swyddogion yr heddlu yn gweithio yn galed i ddiogelu'r cyhoedd, yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â thrais a cham-drin domestig, ac yn ymateb i drais rhywiol, troseddau'n ymwneud â chyllyll a phob math arall o drais a chasineb.
Mae'n hanfodol eu bod ar gael i wneud pob un o'r pethau hyn, ac i ymateb i bobl sy'n ein ffonio mewn argyfwng, fel sy'n digwydd gannoedd o weithiau bob dydd. Felly dilynwch y rheoliadau fel y bydd modd i ni gadw pawb yn ddiogel.
Bu marwolaeth Mohamud Hassan yn drasiedi, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ei deulu. Byddwn yn gweithio gyda Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn rhoi iddi bopeth sydd ei angen arni, a byddwn yn gweithio'n ddiflino i barhau i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel.