Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i ddarparu proses recriwtio deg i bob ymgeisydd.
Ein nod yw sicrhau bod ein holl arferion cyflogi, gan gynnwys y broses recriwtio, yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ac yn deg. Rydym yn disgwyl i bob aelod o staff sy'n rhan o'r broses recriwtio rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r aelodau o staff a'r aseswyr sy'n rhan o'n prosesau recriwtio wedi'u hyfforddi i adlewyrchu ein safonau uchel, ac mae angen iddynt gwblhau hyfforddiant ar Ragfarn Ddiarwybod. Mae hyn yn sicrhau y caiff egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb eu dilyn.
Gallwn ddarparu addasiadau neu ystyriaethau rhesymol yn ein canolfannau asesu a chyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr a all ddarparu tystiolaeth addas.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent ofyn am drefniadau a fydd yn eu helpu i gwblhau elfennau o'r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati.
Caiff addasiadau/ystyriaethau eu trafod yn unigol, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r dystiolaeth a ddarperir gennych. Gellir cynnig addasiadau/ystyriaethau i gefnogi ystod o amgylchiadau unigol.