Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae addasiadau rhesymol yn geisiadau sy'n ymwneud ag anabledd. Mae’r rhain ar gyfer ymgeiswyr a all brofi bod ganddynt unrhyw fath o anabledd, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr sydd â chyflwr niwroamrywiaeth megis dyslecsia.
Mae ystyriaethau yn geisiadau nad ydynt yn ymwneud ag anabledd. Gall ymgeiswyr sydd â chyflyrau sydd y tu allan i ddiffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o anabledd, e.e. cyflyrau tymor byr a/neu nad ydynt yn cael effaith andwyol sylweddol ar weithgareddau o ddydd i ddydd yr ymgeisydd, fod yn gymwys i wneud cais am ystyriaeth.
Gallwn gymeradwyo addasiadau neu ystyriaethau rhesymol yn ein canolfannau asesu a chyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr a all ddarparu tystiolaeth addas.
Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent ofyn am drefniadau a fydd yn eu helpu i gwblhau elfennau o'r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati.
Caiff addasiadau/ystyriaethau eu trafod yn unigol, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r dystiolaeth a ddarperir gennych. Gellir cynnig addasiadau/ystyriaethau i gefnogi ystod o amgylchiadau unigol. Gall enghreifftiau o drefniadau y gellir eu darparu gynnwys:
Os hoffech ofyn am drefniadau i gael cymorth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â'n Tîm Recriwtio Adnoddau Dynol. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am addasiad neu ystyriaeth resymol yw'r dyddiad cau ar gyfer eich cais am swydd neu ar gyfer ymgeiswyr mewnol sy'n sefyll arholiadau, sef y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich arholiad penodol. Ni ellir gwarantu y bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu prosesu a'u rhoi ar waith.
Caiff unrhyw geisiadau cyswllt neu wybodaeth a dderbynnir sy'n ymwneud ag addasiadau ac ystyriaethau rhesymol eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Os bydd angen i chi gael ein gwybodaeth cydraddoldeb mewn fformat arall, cysylltwch â ni i ofyn amdani neu i drafod eich anghenion.
Er mwyn cysylltu, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01656 869225.