Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r adeg yma o’r flwyddyn yn llawn rhyfeddod. Ond i nifer ohonom, mae’n un o adegau prysuraf y flwyddyn hefyd. Fel bob amser, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo'n ddiogel dros gyfnod yr ŵyl.
Mae ymgyrch Ystyriwch y Canlyniadau yn annog pobl i stopio ac ystyried sut y gall penderfyniad byrbwyll arwain at ganlyniadau a all newid eu bywyd a bywydau pobl eraill.
Mae canlyniadau troseddau’n gallu cynnwys sedd wag wrth y bwrdd yn ystod cinio Nadolig, anwylyd na fydd byth yn dod adref yn dilyn noson allan, a rhywun sydd wedi cael ei anafu'n ddifrifol neu sy’n teimlo dan fygythiad. Rydym am i bobl ystyried pa mor gyflym gall y darlun newid.
Bob blwyddyn, mae gormod o deuluoedd yn colli anwyliaid ar ôl i rywun benderfynu gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Gall dioddefwyr cam-drin domestig dreulio'r Nadolig mewn ofn oherwydd bygythiadau, trais neu ymddygiad rheolaethol. Mae gweithredoedd treisgar yn newid bywydau am byth a gall strywo’r Nadolig i deuluoedd os bydd anrhegion yn cael eu dwyn.
Ymysg y dolenni a'r adnoddau perthnasol ar y dudalen hon, mae'r daflen isod yn cynnig cyngor ac arweiniad rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i'ch cadw chi, eich anwyliaid a'ch cartref yn ddiogel y Nadolig hwn.
Er bod y galw arnom yn cynyddu dros gyfnod yr ŵyl, bydd ein swyddogion a'n staff yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a hyd at y Flwyddyn Newydd, gan helpu i gadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl lle mae ei angen fwyaf.
Mae ymgyrchoedd ac adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith ar hyd a lled ardal de Cymru i flaenoriaethu diogelwch pawb yn ein cymunedau.
