Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid oes rhaid i bawb yfed alcohol wrth fynd allan gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
Partneriaeth rhwng Heddlu De Cymru a safleoedd trwyddedig ledled de Cymru yw'r Cynllun Gyrrwr Dynodedig (DES) sy'n gwobrwyo pobl am ddewis aros yn sobor a gwneud yn siŵr bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Mae'r cynllun yn hyrwyddo yfed yn gyfrifol, yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol, ac yn cydnabod y rôl bwysig mae gyrwyr dynodedig yn ei chwarae wrth gadw ein ffyrdd yn ddiogel.
Beth yw gyrrwr dynodedig?
Gyrrwr dynodedig yw rhywun sy'n cytuno i beidio ag yfed alcohol ac sy'n cymryd cyfrifoldeb am yrru ei hun a phobl eraill adref yn ddiogel.
Os ydych chi'n mynd allan am bryd o fwyd, i wylio chwaraeon byw, dathlu achlysur arbennig neu fwynhau noson allan, drwy fod yn yrrwr dynodedig gallwch chi helpu i sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Sut mae'r cynllun DES yn gweithio?
Mae cymryd rhan yn syml:
Y safleoedd unigol fydd yn pennu amodau'r cynnig hwn. Gallai gynnwys diodydd meddal o’r tap am ddim, diodydd meddal am bris gostyngol, diod ffrwythau, neu swm penodol o ddiodydd am ddim wrth brynu pryd o fwyd. Gall y cynnig amrywio yn dibynnu ar y safle ac yn ystod gwahanol gyfnodau'r ymgyrch.
Pam mae'r cynllun yn bwysig?
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol yn un o'r risgiau mwyaf i ddiogelwch ar ein ffyrdd o hyd.
Mae llawer o bobl yn credu eu bod yn gwybod faint o alcohol y gallan nhw ei yfed ac aros o dan y terfyn cyfreithiol, ond nid yw hynny'n wir. Mewn gwirionedd, mae alcohol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n dibynnu ar eich oedran, eich pwysau, eich metaboledd ac a ydych chi wedi bwyta, ymysg ffactorau eraill.
Nid oes unrhyw ffordd ‘gyflym’ o dynnu'r alcohol o'ch system. Ni fydd cwpanaid o goffi, diodydd egni, awyr iach, neu gawod yn gwneud i chi fod yn ddiogel i yrru. Yr unig beth fydd yn gwaredu'r alcohol o'ch corff yw amser.
Mae'r cynllun DES yn rhoi rheswm cadarnhaol i bobl ddewis ymwrthod ag yfed alcohol ac yn cefnogi teithiau mwy diogel adref i bawb.
Cefnogi cymunedau mwy diogel
Mae nifer o safleoedd trwyddedig ledled de Cymru yn cefnogi’r cynllun DES ac wedi ymrwymo i hyrwyddo yfed yn gyfrifol a diogelwch ar y ffyrdd.
Drwy gymryd rhan yn y cynllun, mae safleoedd yn helpu i:
Hoffai eich safle gymryd rhan?
Dylai safleoedd trwyddedig sydd â diddordeb mewn cofrestru â'r cynllun DES gysylltu â'u Tîm Trwyddedu lleol yn Heddlu De Cymru am ragor o wybodaeth.
Gyda'n gilydd, gallwn ni wneud ein ffyrdd yn fwy diogel a helpu pobl i fwynhau nosweithiau allan ledled de Cymru mewn modd cyfrifol.
Safleoedd sy'n cymryd rhan yn y cynllun
Dyma’r safleoedd sy’n cefnogi'r cynllun DES dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd eleni. Mae’n bosibl y bydd y cynnig yn amrywio yn dibynnu ar y safle, a bydd y cynllun yn amodol ar argaeledd.
Caerdydd
Bro Morgannwg
Pen-y-bont ar Ogwr
Rhondda Cynon Taf
• [Venue list to be added]
Merthyr Tudful
Abertawe
• [Venue list to be added]
Castell-nedd Port Talbot
• [Venue list to be added]