Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu straeon am gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched drwy lygaid ein swyddogion, wrth i'r heddlu lansio ei ymgyrch ddiweddaraf – ‘Ni’n Gweld’.
Mae'r ymgyrch hon yn dilyn ymlaen o ymgyrch ‘Gweld Fi’, a lansiwyd ym mis Awst y llynedd. Nod ‘Ni'n Gweld’ yw annog dioddefwyr trais yn erbyn menywod a merched i roi gwybod i'r heddlu.
Mae swyddogion o bob rhan o'r heddlu wedi rhannu'r hyn y maent yn ei weld yn y gobaith y bydd dioddefwyr posibl yn adnabod patrymau cam-drin ac yn mynd ati i geisio cymorth neu roi gwybod i'r heddlu.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Joanna Maal:
“Drwy ddefnyddio lleisiau ein swyddogion sy'n delio â throseddau yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, ein gobaith yw helpu dioddefwyr i ddeall nad yw'r hyn y maent yn ei wynebu yn iawn.
“Mae ein swyddogion yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n flaenoriaeth hirdymor i Heddlu De Cymru.
“Rydym yn cydnabod bod pryderon am ddiogelwch personol a thrais mor gyffredin ag erioed.
“Rydym yn gweld maint ac effaith trais yn erbyn menywod a merched bob dydd ac rydym am dynnu sylw at y materion, rhannu gwybodaeth â'n cymunedau, annog menywod a merched i roi gwybod am ymddygiadau ymosodol neu gael cymorth, ac annog y rhai sy'n gweld ymddygiadau ymosodol i dynnu sylw atynt a'u herio.”
Guidance on how to report domestic abuse can be found here: How to report domestic abuse | South Wales Police (south-wales.police.uk)
Guidance on how to report a rape, sexual assault or other sexual offence can be found here: How to report rape, sexual assault or other sexual offences | South Wales Police (south-wales.police.uk)
Ond os nad ydych yn siŵr a ydych yn barod i roi gwybod am beth ddigwyddodd i chi, os nad ydych am siarad â ni, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu.
Chi sy'n rheoli, a chi sy'n cael dewis pwy i siarad â nhw a pha help a gewch.
Gallwch siarad â'r bobl a'r sefydliadau hyn yn breifat ac yn gyfrinachol, ac ni fyddant yn rhannu unrhyw beth â ni, oni bai eu bod yn meddwl bod rhywun mewn perygl difrifol.
I gael sefydliadau cymorth i ddioddefwyr Trais yn erbyn Menywod a Merched, cliciwch yma.
I gael cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, cliciwch yma.
I gael cymorth i ddioddefwyr stelcio ac aflonyddu, cliciwch yma.
