Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cerfio pwmpenni, gwisg ffansi ac arddangosfeydd tân gwyllt trawiadol – mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn aml yn uchafbwyntiau yng nghalendr y teulu.
Ond gyda lleiafrif bach yn gweld digwyddiadau'r hydref fel esgus i ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gall llawer o bobl yn ein cymunedau deimlo'n ofidus, yn ofnus ac yn bryderus yn ystod y cyfnod hwn.
Dyma pam y bydd Heddlu De Cymru yn cefnogi Ymgyrch BANG unwaith eto eleni, drwy helpu ein cymunedau i fwynhau'r dathliadau yn ddiogel a gofyn iddynt gofio ar yr un pryd Nad yw Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn Hwyl i Bawb.
Mae'r cyfnod hwn bob amser yn hynod o brysur i'r gwasanaethau brys; derbyniodd Heddlu De Cymru fwy na 2,000 o alwadau am wasanaeth* ar 31 Hydref, sef Calan Gaeaf, y llynedd a mwy na 2,200 ar 5 Tachwedd, sef Noson Tân Gwyllt. Defnyddiwyd y rhif brys 999 i wneud 925 o'r galwadau hynny ar Galan Gaeaf, a daeth 764 galwad 999 ar Noson Tân Gwyllt.
Er bod y galw yn cynyddu ar y diwrnodau hynny, mae'r cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl y dyddiadau hyn hefyd, yn aml, yn hynod o brysur, gan roi pwysau ychwanegol ar yr heddlu a'i bartneriaid.
Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn ystod y dathliadau a chyn hynny er mwyn helpu i atal a chanfod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn.
Bydd ein timau plismona yn y gymdogaeth yn gweithio'n agos gyda phartneriaid awdurdod lleol a manwerthwyr hefyd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd ein Swyddogion Cyswllt Ysgolion ac asiantaethau partner yn ymweld ag ysgolion ym mhob rhan o ardal yr heddlu i addysgu disgyblion am beryglon tân gwyllt, coelcerthi a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym hefyd wedi creu amrywiaeth o weithgareddau y gall athrawon a rhieni eu lawrlwytho er mwyn helpu i ddiddanu pobl ifanc a sicrhau eu bod yn mynd i ysbryd yr ŵyl.
Caiff y rhai sy'n pryderu am y dathliadau ac sydd am gael llonydd lawrlwytho ein poster i'w roi ar eu ffenest i atal galwyr digroeso.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Brier, arweinydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yr heddlu:
“Rydym yn deall y gall Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn llawn hwyl; mae'n uchafbwynt i rai teuluoedd ac nid ydym eisiau difetha'r dathliadau i neb. Yn wir, rydym eisiau'r gwrthwyneb. Rydym am i'r rhai sy'n dathlu wneud hynny'n ddiogel a mwynhau, ond gan gofio hefyd Nad yw'n Hwyl i Bawb.
“Mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn golygu mwy o straen, gofid ac ofn i bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau, y mae ganddyn nhw bob hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac allan yn eu cymunedau. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn parchu hynny, ond ni ellir dianc rhag y ffaith bod rhai pobl yn gweld yr achlysur fel cyfle i weithredu mewn modd anghymdeithasol, a ni ellir caniatáu hynny.
“Bydd ein timau allan ar hyd a lled de Cymru dros yr wythnosau nesaf - mewn ysgolion, siopau, grwpiau cymunedol ac ati - yn addysgu pobl am y peryglon, y canlyniadau, a'r gyfraith, a helpu i roi tawelwch meddwl i gymunedau ein bod yn ymrwymedig i'w cadw'n ddiogel.
“Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae - yr heddlu a phartneriaid, manwerthwyr a rhieni. Er nad pobl ifanc yn unig sy'n dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae'r dyddiau allweddol hyn yn ystod wythnos hanner tymor eleni a hoffwn annog rhieni i gymryd diddordeb yng nghynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac nad ydynt mewn perygl o dorri'r gyfraith. Gall canlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu gael effaith barhaus ar fywyd person ifanc ac ar y rhai y mae ei weithredoedd wedi effeithio arnynt.”
Mae'r pwysau ar y gwasanaethau brys yn cynyddu'n sylweddol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Er mwyn ein helpu i sicrhau bod ein llinellau ar gael i'r rhai sydd ein hangen fwyaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull cysylltu mwyaf priodol.
Mater i'r heddlu yw pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:
📲 Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook / Twitter
📧 E-bostiwch [email protected]
📞 101
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Dylid cyfeirio pryderon am sŵn, gwerthu tân gwyllt ac eitemau cysylltiedig eraill, a thaflu sbwriel / tipio anghyfreithlon at eich awdurdod lleol. Mae'r manylion ar gael yma.
Ddim yn siŵr a yw'ch pryder yn fater i'r heddlu neu rywun arall? Gall y canllaw defnyddiol hwn eich helpu.