Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
JogOn yw ein hymgyrch sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r aflonyddu y mae menywod yn ei wynebu wrth redeg a loncian. Mae'n mynd i'r afael â'r aflonyddu y mae rhedwyr benywaidd yn ei wynebu'n rhy aml, gan gynnwys heclo, bygythiadau ac ymosodiadau.
Mae'r rhain yn fwy nag ymddygiadau digroeso – yn aml, troseddau ydyn nhw.
Rydym yn gwybod bod y troseddau a'r digwyddiadau hyn yn cael eu tanadrodd yn sylweddol, a dyna pam rydym yn codi'r mater ymysg ein cymunedau rhedeg. Rhaid i ni beidio â thanamcangyfrif effaith yr ymddygiadau a'r troseddau hyn ar fenywod ac annog pobl i riportio pob digwyddiad i'r heddlu.
Mae arolwg a gynhaliwyd gennym wedi tynnu sylw at yr effaith y mae aflonyddu yn ei chael ar fenywod a merched wrth redeg. Dywedodd 68% (117) o redwyr benywaidd eu bod wedi profi rhyw fath o aflonyddu neu ymddygiad camdriniol ar y stryd. Riportiodd menywod ddigwyddiadau fel heclo, sylwadau rhywiol, canu corn y car, arafu'r car wrth eu hymyl, chwibanu, ac, mewn rhai achosion, ymosodiad corfforol neu rywiol.
Mae'r profiadau hyn yn effeithio ar sut mae menywod yn teimlo pan maen nhw'n rhedeg ac yn eu gorfodi i wneud newidiadau wrth ymarfer corff yn yr awyr agored. Dywedodd rhai ohonynt wrthym eu bod yn osgoi gwrando ar gerddoriaeth, yn newid eu llwybr, yn rhedeg yn ystod golau dydd yn unig, yn rhannu eu lleoliad â ffrindiau a theulu, yn gwisgo dillad maen nhw'n teimlo y byddant yn denu llai o sylw, ac nid yw rhai ohonynt bellach yn rhedeg ar eu pennau eu hunain.
Mae sylwadau'r ymatebwyr yn creu darlun o'r effaith y mae aflonyddu ar y stryd yn ei chael ar fenywod a merched yn ein cymunedau ac yn atgyfnerthu'r rheswm dros ymgyrch JogOn.

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda JogOn?
Mae gan Jog On ddwy elfen allweddol – ymgysylltu a bod yn rhagweithiol. Dywedodd 95% o'r ymatebwyr y byddent yn croesawu presenoldeb yr heddlu mewn gweithgareddau rhedeg. Dyna beth rydyn ni'n ei wneud.
Fel rhan o'u patrolau, mae ein timau yn y gymdogaeth yn ymweld â chymunedau lleol drwy ddigwyddiadau parkrun, clybiau rhedeg a mentrau sy'n hyrwyddo diogelwch menywod mewn chwaraeon.
Byddwn yn annog pobl i gydnabod a riportio digwyddiadau ac yn siarad â rhedwyr i'w cefnogi i fynd ati i wrthsefyll yr ymddygiadau hyn.
Mae'r agwedd ragweithiol yn golygu ein bod ni'n cymryd rheolaeth ac yn erlyn pan fydd wedi'i riportio i ni. Mae heclo bellach yn drosedd. Gallwch nawr gael cofnod troseddol a hyd at ddwy flynedd yn y carchar am aflonyddu rhywun yn gyhoeddus ar sail rhyw.

Rhowch wybod i ni
Os ydych chi'n destun unrhyw fath o aflonyddu, cysylltwch â ni drwy'r ffyrdd canlynol:
Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 bob tro.
Os nad ydych chi'n dymuno siarad â'r heddlu, gallwch hefyd gysylltu ag elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111.
Rydym yn gwybod y gall y troseddau hyn effeithio ar unrhyw un a bydd pawb sy'n riportio yn cael eu cymryd o ddifrif, ond y dystiolaeth aruthrol yw bod menywod a merched yn fwyaf tebygol o gael eu targedu a dyna pam rydym yn mynd i'r afael â'r mater yn y modd hwn.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Donna Llewellyn, arweinydd yr heddlu ar gyfer materion Trais yn Erbyn Menywod a Merched:
"Ein neges i dramgwyddwyr sy'n aflonyddu ar y stryd yw hyn: ni fyddwn yn goddef eich gweithredoedd.
"Am gyfnod rhy hir mae menywod wedi newid eu hymddygiad i deimlo'n ddiogel, ond o hyn ymlaen chi sy'n gorfod newid. Nid yw sylwadau sy'n dangos casineb at fenywod ac ymddygiadau ysglyfaethus yn dderbyniol yn ein cymunedau.
"Byddwn yn ei gymryd o ddifrif a byddwn yn gweithredu."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
"Mae cefnogi dioddefwyr a phobl agored i niwed a chreu cymunedau mwy diogel i bawb yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn eu bywydau beunyddiol nhw. Nid oes lle i fygwth, heclo nac ymosod yn ein cymunedau. Ni ddylai neb deimlo bod yn rhaid iddi oddef aflonyddu na chredu na fydd riportio yn gwneud gwahaniaeth. Rydym am i bobl ddeall nad yw'r ymddygiad hwn byth yn dderbyniol ac i deimlo eu bod wedi'u grymuso i'w riportio, gan wybod y bydd rhywun yn gwrando, yn eu cymryd o ddifrif ac yn eu cefnogi.
“Dyna pam rwy'n falch o helpu i ariannu'r ymgyrch bwysig hon JogOn, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth, annog riportio ac anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef.
“Drwy weithio ar y cyd, gallwn herio ymddygiad annerbyniol, cefnogi'r rhai hynny y mae'n effeithio arnynt, a helpu i greu de Cymru ddiogel, gyfiawn a chynhwysol."
295KB
474KB